Mae byrddau gwasanaethau lleol yn bartneriaethau anstatudol yn ardal pob un o 22 awdurdod lleol Cymru. Cawson nhw eu sefydlu yn ymateb i farn Adolygiad Beecham bod gwasanaethau cyhoeddus lleol yn wynebu tri maen tramgwydd ynglŷn â diwallu anghenion y dinasyddion: meddylfryd, cymhlethdod a gallu. Mae'r byrddau'n ceisio gweithio ar draws ffiniau sefydliadau, gan rannu gallu ac arbenigedd i ofalu bod popeth yn mynd yn esmwyth yn y gyfundrefn.
Mae aelodau, strwythurau a dulliau'r byrddau'n amrywio ledled Cymru ond bydd ymhlith aelodau pob bwrdd arweinyddion a phrif weithredwyr y cyrff sy'n cynnig gwasanaethau cyhoeddus pwysig yn yr ardal dan sylw.
- Symleiddio cynlluniau a phartneriaethau – Papur i Gyngor y Bartneriaeth, Gorffennaf 2011
- Bwrdd gwasanaethau pob ardal (gwefan Llywodraeth Cymru)
- Byrddau gwasanaethau lleol (gwefan Llywodraeth Cymru)
- Cwestiynau sy'n codi'n aml (gwefan Llywodraeth Cymru)


