Rydych chi yma: Hafan / Ein gwaith / Yr amgylchedd ac Adfywio / Fframwaith Datblygu Cynaladwy / Arferion da'r awdurdodau lleol
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Arferion da'r awdurdodau lleol

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn defnyddio Fframwaith Datblygu Cynaladwy i ofalu bod byd llywodraeth leol a'i bartneriaid yn lledaenu arferion da. Mae rhestr o'r arferion da sydd wedi deillio o'r fframwaith isod. I ychwanegu enghreifftiau, anfonwch neges at Tim Peppin: tim.peppin@wlga.gov.uk

Datblygu cynaladwy a chyfathrebu

Yn rhan o Fframwaith Datblygu Cynaladwy, mae WLGA wedi ariannu prosiect am ddatblygu cynaladwy a chyfathrebu i wella'r modd mae negeseuon am ddatblygu cynaladwy'n cael eu cyfleu i'r cyhoedd, codi ymwybyddiaeth a hyrwyddo newidiadau mewn ymddygiad ym mhob bro.

Dyma nodau'r prosiect:

  • cyfathrebu'n gyson am faterion cynaladwyedd ledled y wlad mewn modd fydd yn annog pobl i newid eu hymddygiad;
  • cynnal ymgyrch ym mhob bro, yn ôl delfryd y Cynulliad ynglŷn â datblygu cynaladwy, i hyrwyddo newid o'r fath.

I gyflawni'r amcanion hynny, mae arbenigwyr cynaladwyedd a chyfathrebu yn yr awdurdodau lleol wedi cydweithio'n agos i lunio ymgyrchoedd cyfathrebu fydd yn effeithiol. Rhwydwaith Cydlynwyr Datblygu Cynaladwy Cymru drefnodd y prosiect gyda chymorth cwmni ymgynghorol ‘Futerra’.

Un o ddeilliannau'r prosiect yw llawlyfrau i staff yr awdurdodau lleol. Mae'r llyfrynnau ar gyfer swyddogion sy'n ymwneud â materion datblygu cynaladwy bob dydd a'r rhai sy'n gyfrifol am gyfathrebu â'r cyhoedd.

Mae WLGA wedi sefydlu Cronfa'r 'Prosiectau wrth Fesur' i annog byd llywodraeth leol Cymru i arloesi a mabwysiadu arferion da ym maes datblygu cynaladwy. Dyma adroddiadau am y prosiectau sydd wedi'u cwblhau:

Polisi gweithio'n hyblyg (Cyngor Sir Fynwy)

Comisiynodd y cyngor arolwg o arferion teithio ei staff i gyfeirio'r polisi roedd wrthi'n llunio ynglŷn â gweithio'n hyblyg. Cyd-destun yr astudiaeth oedd y ffaith y bydd gan y cyngor bencadlys newydd ac ynddo 450 o weithwyr ym Mrynbuga erbyn 2012 a'r gofyn i awdurdodau lleol gwtogi ar garbon yn sgîl pryderon am y newid hinsoddol.

Cyhoeddiad: Agile Working Policy - Staff Travel Survey Report

Mae rhagor o wybodaeth gan Alison Howard, Cyngor Sir Fynwy: alisonhoward@monmouthshire.gov.uk  

Cynllun gweithredu adfywio cynaladwy: Arbrawf ynglŷn â Strategaeth Cwm Tawe (Dinas a Sir Abertawe)

Prif nod y prosiect oedd paratoi a phrofi cynllun gweithredu y byddai modd ei ddefnyddio mewn prosiectau adfywio eraill yn Abertawe ac mewn ardaloedd eraill. Diben y strategaeth yw gofalu y bydd Cwm Tawe yn cael ei adfywio cymaint ag y bo modd ac yn cyflawni ei lawn dwf o ran sbarduno rhagor o ddatblygu cynaladwy. Prif ddeilliant y prosiect oedd adroddiad manwl ac ynddo fframwaith amcanion cynaladwyedd, argymhellion allweddol a fframwaith monitro parhaus.

Cyhoeddiad: Sustainable Regeneration Implementation Plan Report

Cymorth i awdurdodau lleol ynghylch rheoli'r amgylchedd (CBS Tor-faen a CBS Pen-y-bont ar Ogwr)

Mae'r ddau gyngor wedi llunio amryw ddulliau y gall awdurdodau lleol eu defnyddio i roi trefn rheoli'r amgylchedd ar waith. Bydd y pecyn yn helpu awdurdodau lleol i feincnodi'r hyn sydd wedi'i gyflawni ym maes yr amgylchedd yn ogystal â phennu amcanion i ddibenion gwella.

I gael copi o'r pecyn cymorth, anfonwch neges at Rachael O’Shaughnessy, Cyngor Bwrdeistref Sirol Tor-faen: Rachael.O'Shaughnessy@torfaen.gov.uk  

Mynegai cynaladwyedd i'r ysgolion (CBS (Caerffili)

Nod y prosiect yw llunio mynegai cynaladwyedd i'r ysgolion, ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Tor-faen, Cyngor Sir Gâr, Ymgyrch Cadwch Gymru'n Daclus (Ecosgolion Cymru) a'r New Economics Foundation (NEF). Diben y mynegai fydd esbonio cynaladwyedd a rhoi gwybodaeth am arferion cynaladwy i blant a phobl ifanc.

Bydd y mynegai'n galluogi plant i bennu faint maen nhw wedi cydio yn arferion datblygu cynaladwy. Trwy ateb 10 cwestiwn, bydd y plant yn gweld sgôr ynglŷn â pha mor fodlon, iach a chynaladwy ydyn nhw. Wedyn, byddan nhw'n cael adborth ar ffurf awgrymiadau a chynghorion am arferion cynaladwy – yn ôl yr atebion roeson nhw.

Mae'r mynegai'n cael ei brofi ar hyn o bryd mewn 11 ysgol gynradd ac un ysgol uwchradd. Mae rhagor o wybodaeth gan Tracey Evans evansta@caerphilly.gov.uk a Paul Cooke cookepa@caerphilly.gov.uk yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Cynlluniau rheoli asedion awdurdodau lleol – Proses arfarnu ynglŷn ag arferion cynaladwy (Dinas a Sir Abertawe)

Nod y prosiect oedd llunio ffordd safonol o bwyso a mesur cynlluniau rheoli asedion yr awdurdodau lleol yng nghyd-destun datblygu cynaladwy. Er 2006, mae rhaid i bob cyngor gyhoeddi cynllun o'r fath bob blwyddyn a'i ddefnyddio'n rhan o'i fframwaith cynllunio strategol.

Bydd y pecyn yn helpu gwasanaethau i gymryd asedion i ystyriaeth wrth ddod i benderfyniadau a threfnu eu gwaith nhw yn ogystal â chyfeirio cynllun rheoli asedion y cyngor. O ddefnyddio'r pecyn, bydd gwasanaethau'n gallu:

  • ystyried sut gallan nhw reoli eu hasedion yn ôl amryw feini prawf amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol;
  • ystyried effeithiau'r tueddiadau ynglŷn â'r boblogaeth a'r hinsawdd dros y tymor hir (20-30 mlynedd) i bennu pa risgiau neu gyfleoedd sy'n berthnasol i asedion neu'r gwasanaethau sy'n deillio ohonyn nhw;
  • canolbwyntio ar gyfleoedd i reoli eu hasedion yn fwy cynaladwy yn hytrach na dim ond cofnodi effeithiau, risgiau neu fygythiadau fel sawl dull arfarnu;
  • cydblethu â gwaith y cyngor ynglŷn â meithrin cadernid a nodi risgiau (mae'n bosibl y bydd angen i wasanaethau fwrw golwg ar y gwaith hwnnw i gyfeirio eu prosesau). 

Cyhoeddiad: Adroddiad ar Gynnydd Gwerthuso Cynaliadwy Rheoli Asedau

Mae rhagor o wybodaeth gan: Tim Peppin