Rydych chi yma: Hafan / Amdanon ni / Llywodraeth leol yng Nghymru / Llywodraethu yng Nghymru
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Llywodraethu yng Nghymru

Be a Councillor 4Braslun

Gweithio gyda Llywodraeth Cymru 

Gweithio gyda Llywodraeth y DG

Gweithio gydag Undeb Ewrop

Gweithio gyda Chynghorau Tref a Chymuned

Braslun 

Mae pum ‘haen’ o ddemocratiaeth gynrychiadol i Gymru. Mae pleidleiswyr pob etholaeth yn cael dewis aelod o Senedd San Steffan, aelod o Senedd Ewrop, aelod o'r Cynulliad ac aelod o'r cyngor unedol (yr awdurdod lleol) i weithredu ar eu rhan. Mae gan y rhan fwyaf o ardaloedd gwledig a rhai ardaloedd trefol gynghorau tref a bro, hefyd. Mae 22 awdurdod lleol yng Nghymru a 735 o gynghorau tref a bro. Ar ben hynny, mae awdurdodau'r 3 pharc cenedlaethol, y 4 heddlu a'r 3 gwasanaeth tân ac achub.

Mae yng Nghymru 1,264 o gynghorwyr lleol, tua 8,000 o gynghorwyr bro a 60 o aelodau'r Cynulliad. Mae 4 o aelodau Senedd Ewrop a 40 o aelodau Senedd San Steffan yn cynrychioli etholaethau sydd yng Nghymru, hefyd.

Mae amrywiaeth o gyrff a noddir gan Lywodraeth y Cynulliad yng Nghymru hefyd. Cyrff cyhoeddus anetholedig yw’r rhain sy’n gyfrifol am wasanaethau cyhoeddus. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn penodi pobl leyg i fod yn aelodau anweithredol o fyrddau rheoli’r cyrff yma. Mae cynghorwyr hefyd yn aelodau o’r cyrff yma yn cynrychioli barn a buddiannau’r cynghorau unedol. Mae Cyngor y Celfyddydau ac Asiantaeth yr Amgylchedd ymhlith y cyrff yma.

Mae saith bwrdd iechyd yng Nghymru sy’n paratoi, yn ariannu ac yn cyflwyno gwasanaethau gofal iechyd sylfaenol yn eu hardaloedd. Mae’r rhain yn cynnwys meddygon, fferyllwyr, deintyddion, optometregwyr, gwasanaethau ysbytai a gwasanaethau cymunedol. Mae cynghorydd o bob awdurdod yn ardal y bwrdd iechyd yn aelod o bob bwrdd.

Mae bwrdd gwasanaethau lleol ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru. Mae’r rhain yn gyfrifol am ofalu bod pob gwasanaeth cyhoeddus yn eu hardal yn cydweithio ar draws ffiniau er budd y cyhoedd yn ogystal â datrys anawsterau rhwng gwahanol wasanaethau.

Mae gan gynghorau rôl bwysig o ran craffu ar wasanaethau cyhoeddus yn gyffredinol ac mae hyn yn eu galluogi i ddylanwadau ar bob gwasanaeth cyhoeddus yn eu cymuned.

Yn unol â Rhaglen Cymunedau’n Gyntaf y Cynulliad, mae partneriaethau lleol mewn dros 140 o gymunedau tlotaf Cymru yn dod â chynrychiolwyr o bob maes ynghyd i reoli rhaglenni ariannu er mwyn mynd i’r afael ag amddifadedd a chryfhau cymunedau.

Gweithio gyda Llywodraeth y Cynulliad

Nid yw ‘Llywodraeth Cymru' a’r ‘Cynulliad’ yn golygu’r un peth. Dim ond y gweinidogion sy’n llywodraethu sy’n rhan o Lywodraeth Cymru; mae’r Cynulliad yn cynnwys pob un o’r 60 Aelod Cynulliad. Y Cynulliad yw’r fersiwn Gymreig o senedd y DG yn San Steffan lle daw pob un o ASau y DG ynghyd. Yn y Senedd ym Mae Caerdydd y mae siambr drafod y Cynulliad.

Mae gan Lywodraeth Cymru amrywiaeth eang o bwerau sy’n effeithio ar fyd llywodraeth leol a’i wasanaethau. Mae’n gyfrifol am amrywiaeth o bolisïau perthnasol ym meysydd fel gwasanaethau cymdeithasol, addysg, yr amgylchedd, cynllunio, trafnidiaeth a datblygu’r economi. Yn bennaf oll, mae’n gyfrifol am ddyrannu cyllideb Cymru sy’n werth £15.8 biliwn ac mae dros ei hanner, £8.6 biliwn (2010/11), yn cael ei wario ar wasanaethau byd llywodraeth leol.

Llywodraeth Cymru sy’n pennu’r agenda ar gyfer Cymru. Er ei bod hefyd yn pennu strategaethau a thargedau allweddol, mae’n rhoi cryn dipyn o hyblygrwydd i fyd llywodraeth leol weithio o fewn y ffiniau gwladol yma. Nid yw’r rhan fwyaf o’r arian y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i gynghorau wedi’i glustnodi. Felly, mae gan gynghorau’r hyblygrwydd i wario’r arian ar anghenion a blaenoriaethau lleol.

Mae gan gynghorau gysylltiadau uniongyrchol â Llywodraeth Cymru drwy gynghorwyr a swyddogion. Fodd bynnag, WLGA sy’n bennaf gyfrifol am gynrychioli a thrafod polisïau a materion ariannol ar lefel genedlaethol. Mae’r corff trawsbleidiol yma yn cynrychioli pob cyngor ac yn ethol cynghorwyr blaenllaw o bob cwr o Gymru i fod yn llefarwyr ar faterion byd llywodraeth leol. Mae hefyd yn cwrdd â gweinidogion, ACau eraill a gweision sifil i ofalu bod penderfyniadau cenedlaethol yn ystyried pryderon a safbwyntiau byd llywodraeth leol. Mae Cyngor Partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a byd llywodraeth leol hefyd sy’n hyrwyddo cydweithio, cydweithredu a pholisïau deallus.

Gweithio gyda Llywodraeth y DG

Er bod gan Lywodraeth Cymru a’r Cynulliad bwerau sylweddol o ran arian, deddfau a pholisïau ym myd llywodraeth leol, mae’n bwysig bod cynghorau yn parhau i gydweithio’n agos â gweinidogion, aelodau seneddol a gweision sifil yn Llundain.

Nid yw rhai meysydd pwysig sy’n effeithio ar fyd llywodraeth leol wedi’u datganoli e.e. swyddogaethau’r Swyddfa Gartref mewn cysylltiad â phlismona a diogelwch cymunedol a’r system drethu leol (h.y. treth y cyngor).

Bydd gan gynghorau gysylltiadau uniongyrchol â Llywodraeth y DG drwy gynghorwyr a swyddogion yn gweithio gydag aelodau seneddol lleol a gweinidogion perthnasol. WLGA sy’n bennaf gyfrifol am gynrychioli byd llywodraeth leol gan fod eu huwch-swyddogion yn cwrdd ag Ysgrifennydd Cartref Cymru a gweinidogion eraill Swyddfa Cymru yn rheolaidd, yn ogystal â gweinidogion o adrannau eraill sydd heb eu datganoli.

Gweithio gydag Undeb Ewrop

Mae dylanwad Undeb Ewrop (UE) dros bob elfen o waith byd llywodraeth leol yn cynyddu. Mae gan y cynghorau rôl bwysig hefyd o ran gofalu bod UE yn rhoi manteision ymarferol i bobl Cymru. Dyma rai o’r rhesymau dros bwysigrwydd y berthynas rhwng byd llywodraeth leol ac Ewrop:

  • Gall cynghorau wella safon cynlluniau UE drwy amlygu ffyrdd mwy ymarferol o’u rhoi ar waith ar lawr gwlad. 
  • Mae arian UE, boed o gronfeydd strwythurol neu raglenni eraill, yn ffynhonell bwysig dros ben. 
  • Mae 70% o ddeddfau’r DG sy’n effeithio ar gynghorau yn tarddu o ddeddfau UE. 
  • Gall cynghorau fod ar eu hennill yn sylweddol drwy rannu arferion da ag ardaloedd cyfatebol yng ngwledydd eraill Ewrop.

Gweithio gyda Chynghorau Tref a Chymuned

Mae 735 cyngor tref a chymuned yng Nghymru ac oddeutu 8,000 o gynghorwyr. Nid ydyn nhw ym mhob rhan o’r wlad gan fod gweithdrefn benodol ar gyfer sefydlu cynghorau newydd; gall y gymuned benderfynu eu sefydlu neu eu diddymu. Gallen nhw bennu ‘archeb’ neu ‘gyfradd’ y mae’r cyngor yn ei chasglu gyda threth y cyngor. Mae lefel y gwasanaethau mae’r cynghorau hyn yn eu cynnig yn amrywio ledled Cymru. Mae rhai yn fodlon cyflawni rôl gynrychiadol yn bennaf, ond mae eraill yn cyflwyno amrywiaeth o wasanaethau fel cynnal a chadw neuaddau cymuned, arosfannau bysiau, mannau cyhoeddus a mannau chwarae ar ran y gymuned.

Un Llais Cymru yw’r sefydliad sy’n cynrychioli ac yn cynnig gwasanaethau cymorth i gynghorau tref a chymuned yng Nghymru. Mae llawer o gynghorwyr yng Nghymru hefyd yn gynghorwyr tref a chymuned yn eu hardaloedd. Mae’n bwysig bod cynghorwyr a chynghorwyr tref a chymuned yn cydweithio er mwyn cynrychioli eu cymunedau. Anogir cynghorau unedol a chynghorau tref a chymuned i gydweithio’n agosach drwy gytundebau gwirfoddol o’r enw breinlenni.