O lywodraethu'n dda, mae modd rheoli'n dda, gweithio'n dda, gwarchod arian cyhoeddus ac ymgysylltu'n dda â'r cyhoedd. Yn y pen draw, bydd hyn oll yn arwain at ddeilliannau da (The Good Governance Standard for Public Services, OPM a CIPFA, 2005). Mae llywodraethu corfforaethol yn hwyluso fframwaith atebolrwydd i'r rhai sy'n defnyddio gwasanaethau, y bobl gysylltiedig eraill a'r gymuned ehangach. Mae pob cyngor yn dod i benderfyniadau ac yn cyflawni ei amcanion yn ôl y fframwaith hwnnw.
Y farn gyffredinol yw mai Adroddiad Cadbury am Safonau Bywyd Cyhoeddus (1992) oedd yr ymdrech gyntaf i ddatblygu amgyffred safonol o lywodraethu corfforaethol yn y sector preifat. Pennodd mai gonestrwydd, agwedd agored ac atebolrwydd yw egwyddorion llywodraethu corfforaethol da. Datblygiad arbennig o bwysig oedd Adroddiad Nolan ym 1995 a bennodd 7 egwyddor bywyd cyhoeddus, sef:
- Agwedd anhunanol
- Uniondeb
- Gwrthrychedd
- Atebolrwydd
- Agwedd agored
- Gonestrwydd
- Arweiniad
Mae fframwaith CIPFA a SOLACE, ‘Delivering Good Governance in Local Government’, yn diffinio'r egwyddorion sy'n bwysig i drefniadau llywodraethu pob cyngor. Mae'r diffiniad wedi'i seilio ar yr hyn sydd yn ‘The Good Governance Standard for Public Services’.
Mae'r fframwaith yn rhoi safonau ymddwyn ac arwain wrth wraidd llywodraethu da ac yn gofyn i'r cynghorwyr a'r swyddogion amlygu arweiniad trwy ymddwyn yn ôl safonau uchel a bod yn enghraifft i'r awdurdod i gyd. Mae'r chwech egwyddor graidd isod yn rhoi fframwaith safonol ar gyfer asesu arferion llywodraethu pob awdurdod. Mae egwyddorion eraill yn ategu pob prif egwyddor:
- Canolbwyntio ar ddiben yr awdurdod a'r deilliannau i'r gymuned, a chreu/gwireddu delfryd ar gyfer y fro.
- Bydd y cynghorwyr a'r swyddogion yn cydweithio i gyflawni amcanion ar y cyd, a bydd diffiniadau eglur o'u rolau a'u gorchwylion.
- Hyrwyddo gwerthoedd yr awdurdod ac amlygu gwerthoedd llywodraethu da trwy ymddwyn yn ôl safonau uchel.
- Penderfynu yn ôl gwybodaeth berthnasol trwy broses dryloyw sy'n destun craffu effeithiol, a rheoli peryglon.
- Meithrin gallu'r cynghorwyr a'r swyddogion i weithio'n effeithiol.
- Ymgysylltu â'r trigolion a'r bobl gysylltiedig eraill i ofalu bod atebolrwydd cyhoeddus cadarn.
Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn helpu cynghorau Cymru i lywodraethu'n well trwy:
- Strategaeth Datblygu'r Cynghorwyr
- datblygu arweinyddion
- datblygu a defnyddio Rhaglen Gwella Cymru
- hwyluso fframweithiau newydd ar gyfer rheoli gwleidyddol
Mae rhagor o wybodaeth gan: Daniel Hurford
