Rydych chi yma: Hafan / Amdanon ni / Llywodraeth leol yng Nghymru
 

Llywodraeth leol yng Nghymru

Mae awdurdodau plwyf, sir a bwrdeistref wedi’u sefydlu yng Nghymru er dechrau’r 16eg ganrif. Arweiniodd twf pwerau’r awdurdodau lleol yn ystod y chwyldro diwydiannol at ffurfio cynghorau etholedig ar gyfer pob sir, bwrdeistref sirol, dosbarth trefol a dosbarth gwledig tua diwedd y 19eg ganrif. Bu’r drefn gymhleth honno ar waith hyd at ad-drefnu sylweddol cyntaf byd llywodraeth leol Cymru ym 1974 pan gafodd 8 cyngor sir a 37 o gynghorau dosbarth eu creu. Ym 1996, sefydlodd yr ad-drefnu diweddaraf un haen o 22 awdurdod sy’n gyfrifol am bob gwasanaeth lleol i drigolion eu bröydd. Mae 1257 o gynghorwyr yng Nghymru.

Cynrychiolwyr democrataidd eu bröydd yw’r prif gynghorau, gan annog eu trigolion i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd leol. Mae’r cyngor cyfan yn cynnal etholiad bob 4 blynedd. Mae’r cyngor yn rhoi amrywiaeth eang o wasanaethau personol, bro ac amgylcheddol ar gyfer unigolion a chymunedau cyfan ‘o’r crud i’r bedd’. Mae’r cyngor yn gwneud mwy na rhoi gwasanaethau beunyddiol yn unig. Arweinydd y fro yw e, a rhaid iddo arwain, ysgogi a helpu’r cyrff sy’n bartneriaid iddo ynglŷn â'r nodau cyffredin i ddiwallu anghenion a gwireddu dyheadau’r trigolion.

Corfforaeth yw statws cyfreithiol pob cyngor. Mae gofyn iddo roi gwasanaethau statudol yn ôl y deddfau perthnasol ac mae ganddo bwerau i roi gwasanaethau eraill fel y gwêl yn dda. Chaiff e ddim gweithredu lle nad oes hawl iddo wneud hynny dan amodau’r gyfraith. Mae ar y cyngor gyfrifoldebau statudol am roi gwasanaethau lleol megis gofal cymdeithasol a thai a rheoleiddio meysydd megis yr amgylchedd a gwaith adeiladu. Mae’r cyngor yn rhoi gwasanaethau naill ai ar ei ben ei hun, ar y cyd â chyrff eraill neu trwy benodi asiantaethau i’w rhoi ar ei ran. Nid elw yw cymhelliant y cyngor, er ei fod yn cynnal rhai gwasanaethau masnachol megis arlwyo a rhai gwasanaethau sy’n cystadlu â’r sector preifat, megis canolfannau hamdden.

Yn ystod y blynyddoedd diweddar, mae pob cyngor wedi diweddaru ei drefniadau rheoli. Mae hen drefn y pwyllgorau wedi’i disodli gan fyrddau gweithredu wedi’i seilio ar gabinet Llywodraeth San Steffan. Mae cabinet ac arweinydd gan 19 o’r cynghorau a byrddau gweithredu gwleidyddol gytbwys sy’n rhedeg y 3 chyngor arall.
Mae cynghorau unedol Cymru yn gyfrifol am wario £4 biliwn o arian y trethdalwyr – bron i draean o holl gyllideb Cymru. Mae dros 150,000 o weithwyr ym myd llywodraeth leol ac, felly, mae’n un o gyflogwyr mwyaf Cymru hefyd.