18 Ionawr 2012
Mae Cymdeithas Llywodraeth leol Cymru yn croesawu’r cyfle i ymateb i ‘Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaladwy: Fframwaith Gweithredu’ ar ran byd llywodraeth leol. Mae’r ymateb yn cynnwys cynigion uchelgeisiol i newid a gwella sy’n datblygu sylfeini cadarn ac yn rhoi llwyfan gadarn i gyflawni’r amcanion canolog, sef lleihau cymhlethdod a rhoi gwasanaethau cynaladwy sy’n rhoi’r dinesydd yn gyntaf yng Nghymru. I gyflwyno newid mor arwyddocaol, mae’n hanfodol bod polisïau’n parhau’n sefydlog a disgwyliwn i’r fframwaith barhau i fod yn flaenoriaeth i wasanaethau cymdeithasol yng Nghymru.


