Rydych chi yma: Hafan / Pynciau / Dysgu gydol oes materion diwylliannol a / Llwybrau Dysgu 14-19
 

Llwybrau Dysgu 14-19

Mae Llywodraeth y Cynulliad am ofalu, erbyn 2015, y bydd 95% o bobl yn barod am waith tra medrus neu addysg uwch erbyn troi'n 25 oed.  Bydd yn hanfodol datblygu Llwybrau Dysgu 14-19 i gyrraedd y nod hwnnw.

Nod cyntaf y fenter yw rhoi cyfle i blant a phobl ifainc gyflawni eu llawn dwf mewn maes academaidd neu alwedigaethol.  Mae gofyn i ysgolion, colegau addysg uwch a chwmnïau gydweithio i roi amryw gyfleoedd i bobl ifainc gael y math o addysg a hyfforddiant sy'n addas iddyn nhw.  Mae hawl gan bobl ifainc i fanteisio ar gymorth hyfforddwyr dysgu wrth ddatblygu eu llwybrau dysgu nhw.  I yrru'r rhaglen yn ei blaen a rhoi arweiniad strategol, mae'r awdurdodau lleol wedi sefydlu rhwydweithiau dysgu sy'n dod â'r prif gyrff cysylltiedig ynghyd.

I weld crynodeb o'r pwnc, cliciwch ar y ddolen ar y dde.

Mae rhagor o wybodaeth gan: Tim Opie

Cyhoeddiadau perthynol