

© Crown copyright (2011) Visit Wales
Mae llyfrgelloedd yn bwysig iawn i'r gymuned. Mae mwy o bobl yn mynd i'r llyfrgelloedd nag i'r gêmau pêl-droed, y theatrau a'r sinemâu i gyd!
Mae llyfrgelloedd yn fannau cyhoeddus lle mae modd cael llyfrau, tapiau sain a ffilmiau ar fenthyg, chwilio'r Rhyngrwyd, hel gwybodaeth neu gymryd rhan mewn achlysuron. Mae llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru yn cynnig yr hawliau canlynol i ddinasyddion:
- Ymuno'n rhad ac am ddim
- Cael llyfrau ar fenthyg yn rhad ac am ddim
- Neilltuo llyfrau sydd ar gael yng Nghymru yn rhad ac am ddim
- Cael llyfrau ar fenthyg a'u rhoi nhw yn ôl mewn unrhyw lyfrgell
- Dim tâl ar blant sy'n rhoi llyfrau yn ôl yn hwyr
- Defnyddio'r we a chyfrifiaduron yn rhad ac am ddim
- Defnyddio adnoddau gwybodaeth ar y we yn rhad ac am ddim
- Cymorth staff cyfeillgar
Mae WLGA yn cydweithio'n agos â CyMAL i helpu i ddatblygu darpariaeth o safon uchel trwy ein hamgueddfeydd, ein harchifau a'n llyfrgelloedd. Y brif raglen strategol ar gyfer y llyfrgelloedd yw 'Llyfrgelloedd am Oes: Darparu Gwasanaeth Llyfrgelloedd Modern yng Nghymru, 2008-11'.
Trwy wasanaethau archifau, mae pob awdurdod lleol yn gofalu am gasgliad o ddogfennau unigryw sy'n ymwneud â hunaniaeth y fro. Mae dogfennau o'r fath yn cofnodi'r bobl, y lleoedd a'r digwyddiadau sydd wedi dylanwadu ar bob rhanbarth. Nid dim ond dogfennau papur megis tystysgrifau geni, priodas a marwolaeth yw'r rhain. Mae casgliadau'r awdurdodau lleol yn cynnwys ffotograffau, mapiau, cynlluniau, printiau, lluniau, recordiadau, microffilm a chofnodion digidol o ffynonellau preifat a chyhoeddus.
Mae gofyn statudol i'r awdurdodau lleol ofalu am y cofnodion a sefydlu 'trefniadau priodol' ar eu cyfer yn ôl amodau deddfau llywodraeth leol. Mae 13 gwasanaeth archifau yng Nghymru.
Mae amgueddfeydd yn bwysig o ran cyfleu hanes lleol a chyflwyno straeon am y gorffennol i gymunedau ac ymwelwyr fel ei gilydd. Maen nhw'n cynnig addysg, adloniant ac ymdeimlad o berthyn i fro yn ogystal â swyddi i bobl y fro. Mae amcangyfrif bod awdurdodau lleol Cymru yn berchen ar 55 o amgueddfeydd.
Cyhoeddodd CyMAL ei strategaeth gyntaf ar gyfer amgueddfeydd Cymru yn 2010 a bydd yn ceisio gwella eu gwasanaethau yn ôl tair prif egwyddor:
- Amgueddfeydd i bawb: Bydd yr amgueddfeydd yn cynnig cyfleoedd i bawb ddysgu drwy gydol ei oes
- Casgliad i'r genedl: Bydd yr amgueddfeydd yn cadw ac yn datblygu casgliadau sy'n cyfleu'n diwylliant helaeth ac amryfal.
- Gweithio'n effeithiol: Bydd yr amgueddfeydd yn rheoli eu safleoedd, eu gweithgareddau a'u pobl yn fwy effeithiol i gynnig gwasanaethau perthnasol a chadarn y bydd modd eu cynnal.


