Strategaethau iechyd, gofal cymdeithasol a lles yw'r prif ddull o wella iechyd ein cymunedau mewn modd cynaladwy. Mae Carfan Iechyd a Lles wedi helpu i lunio'r strategaethau hynny a'u rhoi nhw ar waith, ac mae'n parhau i wneud hynny.
Strategaethau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles
Mae'r 22 strategaeth i ddibenion iechyd, lles a gofal cymdeithasol yn ymwneud â sawl gweithgaredd megis camau i wella iechyd ac atal afiechyd, gwasanaethau gofal pob cyngor, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac asiantaethau gwirfoddol a phreifat. Mae pob strategaeth wedi'i llunio yn ôl anghenion lleol ac yn rhoi atebion lleol sy'n cyd-fynd â'r amcanion gwladol.
Bydd y strategaethau cyntaf ar waith rhwng 1 Ebrill 2005 a 31 Mawrth 2008. Mae ym mhob un o leiaf chwe gwerth neu egwyddor sylfaenol sy'n dangos y cynnydd ers y gweithdrefnau cydweithio cychwynnol ac, mewn rhai achosion, ragoriaeth amlwg trefn y bartneriaeth dan sylw. Ymgysylltu'n fwy â'r gymuned a gofalu bod gwasanaethau cyfoes ar gael i bawb yw'r egwyddorion mwyaf poblogaidd.
I weld strategaeth pob partneriaeth leol, gwasgwch y dolen isod.


