Rydych chi yma: Hafan / Ein gwaith / Ewrop a WLGA / Blaenoriaethau Polisiau Ewropeaidd / Iechyd a materion cymdeithasol
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Iechyd a materion cymdeithasol

Mae llywodraeth leol mewn safle strategol da i fwrw golwg dros anghenion eu cymunedau, a felly mae Swyddfa Ewropeaidd WLGA yn gallu trafod a ymgynghori gyda'r Comisiwn Ewropeaidd a'r Senedd ar faterion iechyd, cymdeithasol a chyflogaeth.

Meysydd allweddol ar gyfer llywodraeth leol

Er fod darpariaeth gofal iechyd cenedlaethol yn ran o reolaeth aelodau unigol yr UE, mae polisi iechyd y cyhoedd yr UE yn chwarae rôl allweddol wrth helpu aelodau'r UE i gyfuno arbenigedd ac i gyd-gysylltu ymatebion ar draws yr UE i fygythiadau iechyd, yn ogystal â hyrwyddo cydweithredu rhwng systemau gofal iechyd cenedlaethol yr UE.

Gweithgareddau Swyddfa Ewropeaidd WLGA

Iechyd

Mae'r Swyddfa yn bwrw golwg dros ddeddfwriaeth Ewropeaidd yn y maes iechyd, yn nodi y datblygiadau diweddaraf yn Rhaglen Iechyd yr UE 2008-13, ac yn gweithio gyda cyfeillion yn awdurdodau lleol Cymru i drafod effaith mentrau iechyd yr UE ar lywodraeth leol yng Nghymru. Er enghraifft, mae'r Swyddfa wedi nodi datblygiadau yn y Papur Gwyrdd ar Weithlu Ewropeaidd ar gyfer Iechyd, yn ogystal â cynlluniau yr UE ar gyfer symudoledd cleifion a gofal iechyd traws-ffiniau. Mae'r Swyddfa yn mynychu cyfarfodydd Grwp Weithio Iechyd Swyddfeydd y D.U. ym Mrwsel, ac yn gweithio hefyd gyda Swyddfa Ewropeaidd NHS.

Materion Cymdeithasol

Mae'r Swyddfa yn dilyn datblygiadau yn Rhaglen PROGRESS yr UE, ac wedi bod yn dilyn datblygiadau hefyd ar Gyfarwyddyd Amser Gweithio yn fanwl, gan y bydd gweithredu'r deddfwriaeth yn cael effaith mawr ar hawliau cyflogaeth a gwasanaethau cymdeithasol a ddarparir gan lywodraeth leol. Ar faterion y sector tai, mae'r Swyddfa yn gweithio gyda CECODHAS, y Pwyllgor Ewropeaidd ar gyfer Tai Cymdeithasol. Mae'r Swyddfa hefyd yn gweithio gyda cwmnioedd ymgynghorol a sefydliadau materion cymdeithasol. Er enghraifft, helpodd y Swyddfa i drefnu seminar yn Mai 2008 mewn cydweithrediad â Sefydliad Bevan, sef sefydliad ymgynghorol ar gyfiawnder cymdeithasol i Gymru. Fe fydd y Swyddfa yn parhau i ddilyn datblygiadau yn Materion Cymdeithasol, ac fe fydd materion o'r natur hyn yn bwysicach yn 2010 wrth ystyried y Flwyddyn Ewropeaidd ar gyfer Ymladd Tlodi a Gwaharddiad Cymdeithasol.

Mae rhagor o wybodaeth gan: Iwan Williams