18 Ionawr 2012
Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi cymeradwyo’r ymateb yma. Mae sawl cyngor a dau o’r tair Cydweithredfa Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol wedi paratoi cyflwyniadau i ategu’r ymateb ac mae’r rhain wedi’u cynnwys. Ceir hefyd enghreifftiau ychwanegol o gydweithio i ddiogelu plant a’r gwasanaethau anhwylderau yn y sbectrwm awtistig (ASD).
Ar gais Cylch Polisïau’r Gwasanaethau Cymdeithasol, mae’r adran yn cynnwys cyflwyniad byr gan Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol (AGGCC). Mae’r cyflwyniad yma’n rhoi enghreifftiau o’i gwaith dros y bum mlynedd ddiwethaf a sut mae’n bwriadu cyfrannu’n sylweddol at gyflawni’r ymrwymiadau yn yr ymateb yma.
Cynnwys
THEMA: RHOI A HWYLUSO ARWEINIAD I WASANAETHAU CYMDEITHASOL YNG NGHYMRU
- Crynodeb o raglenni Cydweithredfeydd Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol
- Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol
- Enghraifft o gydweithio ar draws pum bwrdd lleol sy’n diogelu plant (Casnewydd, Caerffili Sir Fynwy, Torfaen a Blaenau Gwent
- Prosiectau Cydweithio ASD 2011-13
THEMA: CYFLAWNI EIN HEGWYDDORION MEWN FFYRDD NEWYDD
- Cyflwyniadau am ddatblygu dulliau newydd a’u rhoi ar waith gan:
- Gynghorau Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a Chaerffili
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
- Cyngor Sir Gaerfyrddin


