Rydych chi yma: Hafan / Hygyrchedd
 

Hygyrchedd

Hoffen ni i'r wefan fod mor hawdd ei chyrchu ag y bo modd. I'w gwneud yn haws ei gweld, rydyn ni wedi llunio'r tudalennau yn ôl Lefel A Menter Hygyrchedd y We.

Mae canllawiau'r fenter yn cyfeirio'r safon mae Sefydliad Brenhinol y Deillion yn ei mynnu, hefyd, yn ogystal â'i ymgyrch 'See it right'.

Rydyn ni am gadw at Ddeddf 'Gwahaniaethu ar sail Anabledd' 1995 ynglŷn â darparu gwasanaethau ar y we, yn ôl gofynion Comisiwn Hawliau'r Anabl. Mae'r ddeddf yn dweud y dylai gwefannau'r sector preifat a chyhoeddus fod yn hawdd eu cyrchu.

Mae'r wefan yma wedi'i llunio yn ôl gofynion Fframwaith Ansawdd Llywodraeth y DG ar gyfer Dylunio Gwefannau, a gyhoeddodd Swyddfa'r E-gennad.

Cysylltwch â ni os hoffech chi roi adborth fel y gallwn ni barhau i wneud y wefan yma'n haws ei defnyddio.

Nodweddion cyrchu

  • Mae'r dolenni'n gwneud synnwyr wrth eu darllen allan o'u cyd-destun.
  • Mae testun cyfatebol i bob llun.
  • Mae dalennau rhaeadru wedi'u defnyddio ar gyfer y diwyg a'r cyflwyno.
  • Mae modd darllen pob tudalen heb angen dalennau arddull.
  • Mae modd pennu maint y ffont trwy'r porydd.
  • Mae pob ffurf yn ôl trefn resymegol.
  • Mae'r labeli'n gysylltiedig â meysydd ar ffurff HTML.
  • Mae map o'r wefan i roi gwybodaeth am ei diwyg.

Cyfeirnodau ynghylch cyrchu

Deddf 'Gwahaniaethu ar sail Anabledd' 1995

W3C Web Content Accessibility Guidlines 1.0.

Porwyr

Microsoft - Internet Explorer

Mozilla - Firefox

Apple - Safari

Technoleg gynorthwyol

JAWS: darllenydd sgrîn

Lynx: porydd testun

Dogfennau ar ffurf PDF

Mae'r wefan yma'n defnyddio meddalwedd Adobe® Acrobat® i greu ffeiliau PDF (Diwyg Dogfennau Cludadwy). Mae diwyg PDF wedi'i lunio ar gyfer y we, heb fod yn gaeth i'r un wefan, ac yn ein galluogi i ledaenu dogfennau mawr a chymhleth yn effeithlon. Bydd angen fersiwn priodol Adobe® Acrobat® i agor, darllen ac argraffu ffeiliau PDF. Mae Darllenydd Adobe® Acrobat® ar gyfer pob llwyfan gyfrifiadurol o bwys. Cewch chi godi copi yn rhad ac am ddim (ar wahân i'r tâl am ddefnyddio'r we) o wefan cwmni Adobe.

Yn ogystal â'r deunydd sydd wedi'i lunio ar gyfer y wefan yma, rydyn ni wedi cyhoeddi sawl dogfen arall nad yw'r Gymdeithas a chyrff eraill wedi'i llunio i'r we yn benodol. Rydyn ni wedi cyhoeddi'r dogfennau hynny ar ffurf PDF lle bu'n bosibl, fel y gallwch chi gyrchu’r wybodaeth sydd ynddyn nhw mor hawdd ag y bo modd.Allwn ni ddim eich sicrhau chi y bydd y dogfennau hynny yn unol â safon 'AA' gweddill y wefan, ond rydyn ni am roi cymaint o wybodaeth ar gael ag y bo modd ar ffurfiau mor hawdd eu cyrchu ag y bo modd yn hytrach na pheidio â chyflwyno'r wybodaeth o gwbl.

Efallai na fydd modd cyrchu dogfennau PDF trwy ddarllenydd sgrîn ac efallai na fydd y diwyg yn addas i'r rhai sydd â nam ar y golwg. Mae modd defnyddio'r dulliau isod i droi dogfennau PDF yn ddogfennau testun plaen neu HTML plaen. Gallwch chi droi ffeil PDF yn ddogfen 'dim ond testun' neu HTML plaen trwy ddefnyddio rhaglen drosi neu anfon ffeil yn atodiad.

Rhaglen Drosi Adobe

O fynd at y cyfeiriad isod a theipio cyfeiriad unrhyw ffeil PDF, bydd modd ei throi'n ddogfen HTML 'dim ond testun'.

Addasu: http://www.adobe.com/products/acrobat/access_onlinetools.html

Gwybodaeth ychwanegol: http://www.adobe.com/products/acrobat/access_tools_faq.html

Mae ategyn cyrchu ar gael, hefyd, yn: http://www.adobe.com/support/downloads/5efe.htm

Rydyn ni'n argymell ichi gael fersiwn 7 Acrobat Reader os nad ydych chi wedi gwneud hynny yn barod.