Mae hyfforddiant, ymwybyddiaeth a dysgu gydol oes yn hanfodol i hybu cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol, gan roi cyfle i fyd llywodraeth leol hysbysu ac addysgu cynghorwyr, uwch reolwr a staff. Dylai'r hyfforddiant adlewyrchu pwysigrwydd cydraddoldeb yn holl swyddogaethau'r awdurdod, yn arbennig arwain y gymuned, rheoli cyflawniad a darparu gwasanaethau.
Mae cydraddoldeb yn rhan o faes llafur hyfforddiant byd llywodraeth leol ers 20 mlynedd. Gan fod digon o bwyslais ar sut mae gwasanaethau cyhoeddus yn atebol y dyddiau yma, rhaid i fyd llywodraeth leol roi hyfforddiant mewn modd effeithlon a dangos ym mha ffordd bydd yr hyfforddiant hwnnw o fantais i'r sefydliad dan sylw.
Cylch gorchwyl Carfan Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol WLGA yw codi ymwybyddiaeth o faes cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol ym myd llywodraeth leol Cymru, meithrin medrau a gwella trefniadau darparu gwasanaethau i'r holl gymuned. Mae cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol tu mewn i fyd llywodraeth leol a thu allan iddo fel ei gilydd yn hollbwysig i'w waith. Rydyn ni'n cynnig amryw gyrsiau sydd wedi'u cynnal yn llwyddiannus ym myd llywodraeth leol. Mae modd cael manylion y cyrsiau trwy'r dolenni sydd gyferbyn.
Un o'n nodau eraill yw helpu byd llywodraeth leol i ddatblygu a/neu roi hyfforddiant. Mae WLGA yn cydnabod gwerth rhaglen hyfforddi symbylol sy'n adlewyrchu meddylfryd y sefydliad ac yn cydnabod swyddogaethau a chyfrifoldebau unigol, ac mae'n ystyried anghenion awdurdodau unigol bob amser wrth lunio rhaglen hyfforddi benodol. Mae modd gweld enghraifft trwy wasgu'r ddolen isod ar gyfer Hyfforddiant i'r Cynghorwyr am Gydraddoldeb. Ar hyn o bryd rydyn ni'n helpu'r awdurdodau i lunio a chynnal strategaethau hyfforddi, hefyd.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Anna Morgan
