Rydych chi yma: Hafan / Ein gwaith / Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol / Tai / Cymorth ym maes tai
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Cymorth ym maes tai

Mae cymorth ym maes tai'n cynnig gwasanaethau hyblyg sy'n galluogi pobl fregus eu sefyllfa i fyw'n annibynnol. Mae rôl hanfodol i wasanaethau o'r fath ynglŷn ag atal digartrefedd hefyd, yn ogystal â lleddfu'r pwysau ar lawer o wasanaethau cyhoeddus eraill megis iechyd a chyfiawnder troseddol. Mae'r awdurdodau lleol yn gyfrifol am gynnig cymorth, cynllunio'n strategol a chomisiynu gwasanaethau ym maes tai.

Mae Rhaglen 'Cefnogi Pobl' ar waith dan nawdd Llywodraeth y Cynulliad er 2003. Mae dwy ffrwd ariannu i'r rhaglen:

  • Grant Cefnogi Pobl – i'w weinyddu gan yr awdurdodau lleol
  • Grant Cyllid Cefnogi Pobl – i'w weinyddu gan Lywodraeth y Cynulliad

Mae WLGA yn gofyn i'r trefniadau presennol gael eu newid, gan gynnwys cyflwyno fformiwla wedi'i seilio ar anghenion fel y bydd rhagor o degwch ynglŷn â dyrannu arian y rhaglen ledled y wlad. Ar ben hynny, mae WLGA am i'r ddwy ffrwd ariannu gael eu cyfuno a'u gweinyddu gan yr awdurdodau lleol. Byddai hynny'n arwain at arbedion, yn hwyluso cynllunio strategol mwy cydlynol ac yn rhoi rhagor o ryddid i'r awdurdodau gomisiynu gwasanaethau o'r radd flaenaf.

Mae'r Dirprwy Weinidog dros Faterion Tai ac Adfywio wedi comisiynu adolygiad annibynnol o'r cymorth ym maes tai. Bydd yr adolygiad yn dod i ben fis Hydref 2010.

Mae rhagor o wybodaeth gan: Sue Finch