Mae budd-dal tai’n daliad nawdd cymdeithasol i helpu i dalu rhenti tai cymdeithasol a phreifat. Llywodraeth San Steffan sy’n gyfrifol am bennu polisïau a chyfraddau’r taliadau yng Nghymru, a’r cynghorau sy’n gyfrifol am asesu pwy sy’n cael hawlio’r budd-daliadau a’u talu nhw.
Mae budd-dal tai a’r modd mae’r cynghorau’n ei weinyddu’n hollbwysig o ran helpu pobl i ddod i ben â chostau eu tai a byw mewn cartref diogel a sefydlog.
Mae cyfraddau budd-dal tai’n effeithio’n fawr ar brisiau tai a lefelau digartrefedd yng Nghymru. At hynny, maen nhw’n effeithio’n fawr ar allu cynghorau i atal digartrefedd ac ymateb iddo – boed trwy wasanaethau sy’n cynnig dewisiadau o ran tai, asiantaethau rhoi tai cymdeithasol ar osod neu lety dros dro.
Ynghyd â’r amryw gyrff eraill sy’n cynrychioli cynghorau yn y DG, bydd WLGA yn cwrdd yn rheolaidd â chynrychiolwyr Adran Gwaith a Phensiynau San Steffan i ofalu am fuddiannau Cymru ynglŷn â llunio polisïau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi crynodeb o’r newidiadau ynglŷn â budd-dal tai Ebrill 2011-2014: Gweler y linciau
Mae rhagor o wybodaeth gan: Sue Finch


