Rydych chi yma: Hafan / Ein gwaith / Carfan Cyflogaeth WLGA / Iechyd a Diogelwch
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Iechyd a Diogelwch

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn gweithio gyda'r awdurdodau lleol i'w helpu i gyflawni eu cyfrifoldebau ym maes iechyd a diogelwch.
Trwy gydweithio'n agos ag ymarferwyr, adrannau Llywodraeth San Steffan a Llywodraeth Cymru, yr Awdurdod Gweithredol dros Iechyd a Diogelwch ac amryw gyrff eraill, rydyn ni'n ceisio gwella'r hyn mae'r awdurdodau lleol yn ei gyflawni ym maes iechyd a diogelwch.

At hynny, byddwn ni'n cyfleu safbwynt cyflogwyr staff awdurdodau lleol Cymru i adrannau ac asiantaethau gwladol i ofalu ei fod yn cael ystyriaeth briodol ym mhroses llunio'r polisïau gwladol.

Gall WLGA roi cyngor a chyfarwyddyd am iechyd a diogelwch ynglŷn â nifer o faterion allweddol megis:
rheoli iechyd a diogelwch
• adroddiad blynyddol am iechyd a diogelwch
• dylanwadu ar waith contractwyr ym maes iechyd a diogelwch trwy'r gadwyn gyflenwi
• rhoi gwasanaethau iechyd galwedigaethol ar gael
• y strategaeth wladol ar gyfer iechyd, diogelwch, gwaith a lles
• rôl a chyfrifoldebau'r cynghorwyr

Mae rhagor o wybodaeth gan: Jonathan Lloyd