Deddf 'Hawliau Dynol' 1998
Mae Deddf 'Hawliau Dynol' yn ymgorffori'r rhan fwyaf o Gytundeb Hawliau Dynol Ewrop i gyfraith y DG. Daeth i rym ledled y DG ar 2il Hydref 2000, gan gyflwyno newid cyfansoddiadol sylweddol. Fe gychwynnodd oes newydd trwy adael i'r llysoedd ddiogelu hawliau dynol a dehongli'r gyfraith mewn ffordd sy'n cyd-fynd â Chytundeb Ewrop (lle bo'n bosibl) a chyhoeddi datganiadau o anghymarusrwydd lle nad oes modd gwneud hynny. At hynny, mae'n rhoi'r unigolyn wrth wraidd penderfyniadau awdurdodau cyhoeddus.
Yn ôl adran 6 y ddeddf, rhaid i bob awdurdod cyhoeddus weithredu mewn modd sy'n cyd-fynd â Chytundeb Ewrop.
Mae WLGA yn rhagweld y bydd rhagor o bwyslais ar hawliau dynol ynghylch llunio polisïau gwladol a darparu gwasanaethau am y rhesymau canlynol:
- Mae ymchwil y Comisiwn Archwilio yn awgrymu nad yw hawliau dynol yn cael eu hystyried yn briodol ym mhrosesau penderfynu awdurdodau cyhoeddus. Felly, mae perygl y bydd rhai awdurdodau'n gweithredu'n groes i hawliau dynol unigol, yn ogystal â methu â diogelu hawliau dynol, wrth ddod i benderfyniadau.
- Bydd corff newydd – y Comisiwn dros Gydraddoldeb a Hawliau Dynol – yn ysgwyddo cyfrifoldebau'r comisiynau cydraddoldeb presennol (Comisiwn y Cyfleoedd Cyfartal, y Comisiwn dros Gydraddoldeb Hiliol a Chomisiwn Hawliau Anabledd). Yn ogystal ag arwain ynghylch hybu cydraddoldeb a chysylltiadau da, bydd y comisiwn newydd yn gyfrifol am hyrwyddo hawliau dynol. Dyma'r tro cyntaf mae corff o'r fath wedi bod ar waith yng Nghymru a Lloegr.
- Mae cydraddoldeb yn hawl ddynol. Mae'r syniad o drin a thrafod pobl gyda thegwch, parch a chydraddoldeb, heb eu bychanu, (egwyddorion FRED) wrth wraidd hawliau dynol. Gall yr egwyddorion hynny helpu'r awdurdodau i asesu effaith polisïau cyfredol a newydd, a threfniadau darparu gwasanaethau, ar gydraddoldeb.
- Mae deddfau cydraddoldeb y DG yn hyrwyddo'r syniad o drin a thrafod anffafrio fesul agwedd, h.y. tras, anableddau, rhyw, tueddfryd rhywiol, crefydd/cred ac oedran. Hanfod hawliau dynol yw y dylai pawb allu byw yn ôl Cytundeb Ewrop heb unrhyw fath o anffafrio. Mae'n rhestru nifer o agweddau dan y term 'statws arall' sy'n ehangach na chwmpas ein deddfau cydraddoldeb presennol, gan roi ystyriaeth i achosion o 'anffafrio amryfal' (lle mae pobl wedi'u hanffafrio am resymau amrywiol megis eu tras a'u rhyw).
- Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi pennu ei delfryd ar gyfer diwygio'r gwasanaethau cyhoeddus yn 'Creu'r Cysylltiadau' (weblink here). Mae 'Creu'r Cysylltiadau' wedi'i ategu gan egwyddorion cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol i bawb. At hynny, mae'n amlinellu bwriad y Cynulliad o ran llunio a darparu gwasanaethau yn ôl anghenion y rhai sy'n eu defnyddio nhw (dinasyddion yn ganolbwynt), gan atgyfnerthu egwyddorion hawliau dynol – sef, anghenion yr unigolyn sy'n bwysig, nid anghenion mae tyb bod eu hangen ar bobl achos eu bod yn rhan o ryw garfan benodol.
Yn 2005, gofynnodd WLGA i Sefydliad Hawliau Dynol Prydain roi hyfforddiant i swyddogion cydraddoldeb byd llywodraeth leol am Ddeddf 'Hawliau Dynol' a sut mae modd ei defnyddio ar y cyd â deddfau cydraddoldeb i greu polisïau ac arferion sy'n cydnabod amrywioldeb ac yn mynd i'r afael ag anffafrio ac annhegwch. Mae adroddiad am yr hyfforddiant wedi'i baratoi, ac mae ynddo sylwadau'r rhai a fanteisiodd ar y cyfle allweddol hwnnw i ddysgu.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Paula Walters
