Mae rôl hanfodol i'r awdurdodau lleol ynglŷn â chynnig, hwyluso a datblygu cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden a diwylliannol yng Nghymru.
Mae gwasanaethau hamdden yn cadw ein cymunedau'n iach ac yn annog pobl i fyw'n iach. Mae gwasanaethau diwylliannol yn annog cymunedau i werthfawrogi eu treftadaeth, parchu diwylliannau amrywiol a meithrin medrau creadigol. Mae'r llyfrgelloedd yn bwysig ynghylch galluogi pobl i ddarllen, cynnal ymchwil a dod o hyd i wybodaeth yn y gymuned yn ogystal â helpu pobl i feithrin llythrennedd a medrau sylfaenol. Mae gwasanaethau archifau'n cadw cofnodion lleol o arwyddocâd ac yn eu rhoi ar gael i'r gymuned.
Rôl yr awdurdodau lleol
Mae'r cynghorau'n cynnig amrywiaeth helaeth o weithgareddau a gwasanaethau hamdden a diwylliannol yn y gymuned, gan gynnwys:
- Cyfleusterau hamdden dan do ac yn yr awyr agored.
- Meysydd chwaraeon a chyfleusterau chwarae.
- Parciau cyhoeddus a mannau agored.
- Cynlluniau datblygu'r chwaraeon.
- Canolfannau i'r celfyddydau a theatrau.
- Orielau ac amgueddfeydd.
- Gwasanaethau datblygu'r celfyddydau, gwyliau ac achlysuron diwylliannol.
- Llyfrgelloedd, gwasanaethau gwybodaeth a llyfrgelloedd teithiol.
- Gwasanaethau archifau lleol.
Mae pob cyngor yn gweithio'n wahanol achos bod ganddo ei strwythurau, ei bolisïau a'i gynlluniau ei hun a'i feini prawf ei hun o ran grantiau. Mae yn y rhan fwyaf o gynghorau adran sy'n bennaf cyfrifol am gynnal ac ariannu gwasanaethau hamdden a diwylliannol.
Hanfod delfryd y cynghorau ar gyfer hamdden a materion diwylliannol yw rhoi cyfleoedd i bawb. O ganlyniad, mae'r rhan fwyaf o'r cynghorau'n cynnig prisiau arbennig i annog pobl i fanteisio ar gyfleusterau a lleoliadau, ac maen nhw'n cydweithio'n agos â'r trydydd sector i ddatblygu'r hyn sydd ar gael.
Yn rhinwedd ei statws yn arweinydd y gymuned, bydd rôl strategol allweddol i bob cyngor ynglŷn â datblygu gwasanaethau hamdden a diwylliannol yn ôl anghenion a dyheadau'r trigolion lleol. I'r perwyl hwnnw, rhaid cydweithio'n agos â Chyngor Celfyddydau Cymru, Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru.
Ffeithiau allweddol
- Mae dros 500 o gyfleusterau hamdden yng Nghymru yn perthyn i awdurdodau lleol neu'n cael eu rheoli ganddyn nhw.
- Mae dros 320 o fannau lle mae modd defnyddio llyfrgell gyhoeddus.
- Mae'r ystadegau diweddaraf (2008) yn awgrymu bod 82% o'r rhai sy'n defnyddio cyfleusterau'r awdurdodau lleol yn fodlon arnyn nhw.
- I fod yn iach, dylai oedolion ymarfer am hanner awr bum gwaith yr wythnos a dylai plant ymarfer am awr bum gwaith yr wythnos.
- Mae dros bedair rhan o bump o bobl Cymru yn mynd i achlysur celfyddydol o leiaf unwaith bob blwyddyn.
Rhagor o wybodaeth


