Rydych chi yma: Hafan / Pynciau / Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol / Bwletinau a Briffiau
 

Bwletinau a Briffiau

Briffiau Cydraddoldeb WLGA

Tra oedden ni'n dadansoddi pa hyfforddiant y byddai ei angen ar gynghorwyr byd llywodraeth leol Cymru yn 2005, dywedodd y cynghorwyr y bydden nhw'n croesawu rhagor o gyfathrebu a hysbysu ym maes cydraddoldeb, yn arbennig am y deddfau cyfredol a'r rhai sydd ar y gweill. O ganlyniad, mae'n dda gan Garfan Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru gyflwyno rhifyn cyntaf ei briff am gydraddoldeb i'r cynghorwyr. Byddwn ni'n gwerthfawrogi'ch sylwadau am y briffiau, ynghyd â'ch syniadau am faterion yr hoffech chi inni eu trafod ynddo. Cysylltwch â Paula Walters: 029 20468663 neu paula.walters@wlga.gov.uk 

Bwletinau Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol WLGA

Diben Bwletin Cydraddoldeb a Chyfiawder Cymdeithasol WLGA yw rhoi gwybodaeth am chydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yng Nghymru a’r DG bob pythefnos i’r rhai sy’n llunio polisïau a’r rhai sy’n eu rhoi ar waith. Os ydych chi am gyflwyno gwybodaeth am achlysuron neu weithgareddau yn eich ardal sy’n ymwneud â chydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol, cysylltwch â Barry Williams: 029 20468662 neu barry.williams@wlga.gov.uk