Rydych chi yma: Hafan / Pynciau / Gwella a llywodraethu / Cynllun Rhagoriaeth Cymru / Gwobrau eraill
 

Gwobrau eraill

Mae Cynllun Rhagoriaeth Cymru yn ymwneud â chydnabod arferion da yn yr amryw wasanaethau mae'r cynghorau'n eu darparu. Canmol ac ysbrydoli yw dau nod ond, yn bwysicaf oll, hoffen ni ledaenu dysg a gwella gwasanaethau cyhoeddus ym mhob cyngor.

Fe gyflwynodd awdurdodau lleol Cymru 33 o geisiadau i Gynllun Rhagoriaeth Cymru eleni. Rydyn ni'n gwybod bod awdurdodau lleol Cymru yn gwneud llawer o bethau da ac mae gyda nhw ddigon i'w rannu. Felly, i ddibenion yr achlysur yma, rydyn ni wedi casglu manylion cynlluniau cydnabod eraill fel y gall eich awdurdod ystyried cyflwyno ceisiadau iddyn nhw yn y dyfodol.

Nid rhestr gynhwysfawr mo hon ac, felly, os ydych chi'n gwybod am unrhyw gynlluniau perthnasol eraill, anfonwch y manylion at Clover R a byddwn ni'n eu cyhoeddi ar y dudalen yma.


Mae rhagor o wybodaeth gan: Clover Rodrigues