Rydych chi yma: Hafan / Amdanon ni / Maniffesto CLlLC ar gyfer Etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol (2011 - 2016) -Ymateb i’r Her / Gwneud ein cymunedau’n fwy diogel
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Gwneud ein cymunedau’n fwy diogel

Mae Llywodraeth Leol wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth newydd Cymru i gyflawni:

  • Datganoli cyfrifoldeb plismona a chyfiawnder ieuenctid a sefydlu Comisiwn i ystyried goblygiadau datganoli’r system cyfiawnder troseddol i Gynulliad Cymru ac, yn y cyfamser, sicrhau bod strwythurau llywodraethu ac atebolrwydd yr heddlu’n cydnabod pwysigrwydd cydweithio gydag awdurdodau lleol
  • Cefnogaeth i ddatblygu a rheoli plismona’r gymdogaeth ymhellach ac integreiddio gwasanaethau ar y rheng flaen
  • Cymorth ariannol parhaus yn uniongyrchol i Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol yn hytrach na thrwy Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
  • Blaenoriaeth barhaus ar gyfer ymateb i gam-drin a thrais domestig, gan sicrhau nad yw newidiadau i’r tirlun polisi yn dilyn gweithredu Mesur Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol yn tanseilio’r amcanion a’r nodau a geir yn Yr Hawl i Fod yn Ddiogel
  • Cydnabyddiaeth bod angen dulliau gwahanol o newid Strategaeth Gwrthderfysgaeth y DU yng Nghymru, yn arbennig mewn perthynas â Atal

Cefndir:

Mae Diogelwch Cymunedol yn flaenoriaeth uchel i bob cymuned. Nid gwaith yr heddlu yn unig yw creu Cymunedau mwy Diogel. Mae gan awdurdodau lleol a’r gwasanaethau y maent yn eu cyflenwi rôl allweddol yn helpu i adeiladu cymunedau mwy diogel p’un a yw hyn trwy ymateb i droseddu amgylcheddol fel graffiti a thipio anghyfreithlon ac ymateb iddynt; darparu gweithgareddau hamdden a diwylliannol amgen ar gyfer y rheiny sydd mewn perygl o droseddu neu amddiffyn trigolion tai rhag ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Mae awdurdodau lleol hefyd yn aelodau allweddol o Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol, yn gweithio gyda’r heddlu a phartneriaid eraill i ddatblygu dulliau aml-asiantaeth o fynd i’r afael â throseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae rhai ardaloedd awdurdodau lleol yng Nghymru wedi cyfrannu at sefydlu rheolaeth cymdogaeth, gan integreiddio plismona cymdogaeth i wasanaethau’r awdurdod lleol. Rydym o’r farn y bydd integreiddio gwasanaethau fel hyn ar y rheng flaen yn ein galluogi ni i ymateb mor dda â phosibl i golli adnoddau ar gyfer gwasanaethau llywodraeth leol a gwasanaethau’r heddlu.

Gwnaed newidiadau radical gan Lywodraeth y DU a fydd yn cael effaith sylweddol ar y ffordd y bydd diogelwch cymunedol yn cael ei gyflwyno yng Nghymru. Bydd cynigion i ddisodli awdurdodau’r heddlu gyda Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn newid y ffordd y mae’r heddlu yn atebol i’r cyhoedd, a bydd yn newid rôl llywodraeth leol yn y strwythur llywodraethu yn sylweddol. Bydd yn hanfodol ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn y cyswllt strategol rhwng awdurdodau lleol a’r heddlu yng Nghymru. Oni bai ein bod yn gweithio i gynnal y cyswllt rhwng llywodraeth leol a’r heddlu, bydd integreiddio gwasanaethau, sydd wedi bod yn achubiaeth i’r ddau sefydliad, yn cael ei danseilio.

Mae gwrthwynebiad CLlLC i gyflwyno Comisiynwyr yn seiliedig ar ein pryder y bydd y mathau newydd o atebolrwydd yn anochel yn gwahanu gwasanaeth yr heddlu oddi wrth wasanaethau lleol eraill. Yr hyn allai ddioddef yw ein strategaethau diogelwch cymunedol a rennir a strategaethau mwy penodol a rennir fel y rheiny sy’n ymwneud â Thrais Domestig.

Yn dilyn Papur Gwyrdd y Weinyddiaeth Cyfiawnder, mae newidiadau i’r ffordd y mae gwasanaethau cyfiawnder oedolion ac ieuenctid yn cael eu cyflenwi ar draws Cymru a Lloegr hefyd yn debygol o gael effaith ar wasanaethau Troseddau Ieuenctid Awdurdodau Lleol yn ogystal â thai, iechyd, cyflogaeth, addysg a hyfforddiant. Bydd yn bwysig i Lywodraeth Cymru a llywodraeth leol weithio gydag adrannau Whitehall i sicrhau bod unrhyw newidiadau yng Nghymru yn addas at y diben yn yr amgylchedd datganoledig.

Mae Gwrthderfysgaeth yn dal yn fater hanfodol yng Nghymru ac yn un lle mae gan awdurdodau lleol rôl allweddol i’w chwarae, yn arbennig o ran atal radicaleiddio a sicrhau bod ardaloedd lleol yn cael eu hamddiffyn. Yng Nghymru, mae rhan o’r gwaith hwn wedi cael ei wneud fel rhan o’r agenda Cydlyniant Cymunedol. Bydd yn bwysig bod newidiadau i Strategaeth Gwrthderfysgaeth y DU yn cydnabod y dulliau gwahanol yng Nghymru.

Oherwydd ein pryderon ynghylch effaith polisi’r Swyddfa Gartref a deddfwriaeth San Steffan, pryder y byddwn yn colli’r integreiddio gwasanaethau sy’n hanfodol i ddiogelwch cymunedol, rydym bellach yn dymuno gweithio gyda Llywodraeth Cymru i geisio datganoli gwasanaethau’n ymwneud â’r heddlu a chyfiawnder ieuenctid ac yn galw am sefydlu Comisiwn ‘Rhuban Glas’ i ystyried datganoli’r system cyfiawnder troseddol.