Mae gan y Gyfarwyddeb Tirlenwi Ewropeaidd a strategaeth Tuag at Ddyfodol Diwastraff Llywodraeth Cynulliad Cymru gosbau ariannol sydd yn gysylltiedig â methiant. Mae hyn yn gwneud dosbarthu gwasanaethau rheoli gwastraff cynaliadwy yn un o’r risgiau strategol allweddol y mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu yng Nghymru.
Wedi ei hariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, mae’r Rhaglen Gwella Gwastraff wedi bodoli er 2007. Roedd yn dilyn rhaglen lle cafodd yr awdurdodau i gyd ‘adolygiad gan gymheiriaid’ o wasanaethau rheoli gwastraff. Yn canolbwyntio i ddechrau ar asesu gwasanaethau mewn awdurdodau lleol yng Nghymru a rhannu arfer da, mae’r gwaith ar hyn o bryd yn targedu cefnogi awdurdodau i gynyddu effeithlonrwydd gweithgareddau rheoli gwastraff. Mae hyn yn cynnwys casglu data ariannol ar wastraff a meincnodi amrywiadau cost i nodi sut y gellir cyflwyno gwasanaethau am gost is.
Mae’r meysydd gwaith allweddol wedi cynnwys:
- ‘Cynllunio trywydd’ gwasanaethau gwastraff presennol ac wedi’u cynllunio ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru i asesu a ydynt yn cydymffurfio â thargedau tymor canolig;
- Cyflwyno seminarau ar gasglu a thrin gwastraff bwyd;
- Asesu teilyngdod casgliadau ailgylchu gwahanol yn cynnwys awdurdodau sy’n darparu gwasanaethau gwahanol;
- Datblygu a dosbarthu dull cyson o gipio data ariannol ar wasanaethau rheoli gwastraff awdurdodau lleol yng Nghymru;
- Ailddatblygu a dosbarthu proses feincnodi i asesu data ariannol a gasglwyd yn ansoddol;
- Gwaith sy’n dod i’r amlwg ar gaffael ar y cyd cerbydau, biniau, bagiau, blychau a leininau gwastraff bwyd, gyda’r bwriad o’i wireddu;
- Datblygu cyfranogiad monitro a gwerthuso prosiect ar gasgliadau ailgylchu bwyd. Cyfuno’r wybodaeth yma gyda Chynllun Craff am Wastraff i ddarparu cyfathrebiadau wedi eu targedu i’r rheiny nad ydynt yn cymryd rhan a chyfranogwyr rhannol.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Emma Shakeshaft


