Rydych chi yma: Hafan / Amdanon ni / Maniffesto CLlLC ar gyfer Etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol (2011 - 2016) -Ymateb i’r Her / Gwella Sgiliau a Chyrhaeddiad Addysgol
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Gwella Sgiliau a Chyrhaeddiad Addysgol

Mae Llywodraeth Leol wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth newydd Cymru i gyflawni:

  • Gweithredu gwasanaethau rhanbarthol gwella ysgolion trwy’r pedwar consortia addysg rhanbarthol;
  • Cymorth gwleidyddol parhaus ar gyfer ad-drefnu ysgolion a mynd i’r afael â lleoedd gwag;
  • Partneriaeth barhaus yn cyflenwi’r Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif;
  • Ymgysylltu teuluoedd a chymunedau mewn addysg a dysgu gydol oes trwy gynnal cyfrifoldebau addysg awdurdodau lleol presennol;
  • Cyllid parhaus i addysg trwy’r Grant Cynnal Refeniw a lleihau nifer y grantiau penodol ymhellach.

Cefndir:

Mae llywodraeth leol wedi ymrwymo yn barhaus i wella addysg a dysgu gydol oes er mwyn galluogi pobl i gyflawni eu potensial fel unigolion, i’w galluogi i gyfrannu’n ystyrlon ac yn effeithiol i gymunedau cynaliadwy ac i helpu i greu cymdeithas fywiog a ffyniannus. Er mwyn i Gymru ddod allan o’i hanhwylder economaidd presennol yn llwyddiannus a chystadlu gyda gwledydd eraill mewn unrhyw welliant i’r economi fyd-eang yn y dyfodol, yna mae’n rhaid i’r system addysg gyflawni canlyniadau gwell i ddysgwyr a rhoi’r sgiliau angenrheidiol iddynt gystadlu’n fwy effeithiol.

Er bod safonau addysg wedi bod yn gwella’n barhaus, mae’n dal yn wir fod y system addysg yn gyffredinol yn tanberfformio. Mae’n annerbyniol nad yw llawer gormod o bobl ifanc yn cyflawni eu potensial a bod yr anghydraddoldebau mawr sy’n ymwneud â dosbarth cymdeithasol a daearyddiaeth yn parhau. Dengys PISA fod plant yng Nghymru ar ei hôl hi o’i gymharu â’u cymheiriaid yn y DU a gwledydd cymharydd eraill mewn llythrennedd, rhifedd a gwyddoniaeth. Y neges glir yn Astudiaeth PISA 2010 yw er bod perfformiad yn gwella, ac er bod ffactorau cyllid a ffactorau economaidd¬gymdeithasol yn arwyddocaol, mae’r system addysg yng Nghymru yn tanberfformio ac mae lefelau cyrhaeddiad yn anfoddhaol. Mae’r sefyllfa hon yn gwbl annerbyniol ac mae’n rhaid i bethau newid.

Mae arweinwyr llywodraeth leol yn derbyn bod ganddynt gyfrifoldeb sylweddol dros berfformiad addysg yn eu hawdurdodau ac maent wedi mynegi eu penderfyniad i weithredu ar unwaith i gyflawni gwelliant er mwyn mynd i’r afael â’r methiant systemig hwn. Mae llywodraeth leol wedi croesawu ffocws Llywodraeth Cymru ar lythrennedd, rhifedd a thlodi plant yn llawn ac mae wedi ymrwymo i weithio gyda’r Gweinidog Addysg yn dwyn ei 20 o weithredoedd ymlaen.

Mae plant a phobl ifanc yng Nghymru yn haeddu cael hawl i ddisgwyl gwasanaeth addysg gwell ac mae’r 22 arweinydd wedi penderfynu gwneud addysg yn brif flaenoriaeth dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf. Cydnabyddir hefyd bod angen i ni ganolbwyntio mwy ar addysgu a dysgu, ar wella llythrennedd a rhifedd, yn hytrach na mynd ynghlwm wrth ymyriadau a thrafodaethau diddiwedd am gyllid a strwythurau. Mae hyn yn golygu defnyddio mecanweithiau fel y Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion i lywio gwelliant yn fwy effeithiol wrth gydnabod hefyd bod angen i ni fod yn fwy trwyadl wrth fesur perfformiad, rheoli data a chryfhau cyfrifoldeb ac atebolrwydd yn y system.

Mae gwella addysg yn gofyn bod dinasyddion, teuluoedd, cymunedau wedi ymgysylltu ag ysgolion lleol ac yn rhannu cyfrifoldeb am y broses ddysgu. Oherwydd hyn mae llywodraeth leol yn parhau i gredu mai awdurdodau lleol â’u gwreiddiau mewn cymunedau lleol, ddylai fod yn gyfrifol am addysg. Fodd bynnag, rydym wedi ymrwymo i weithredu ar frys fel y bydd awdurdodau lleol erbyn 2012, wedi rhoi’r holl adnoddau sy’n angenrheidiol i greu gwasanaethau gwella ysgolion rhanbarthol i’w pedwar consortia addysg. Ceir hefyd ymrwymiad i gynyddu cyfraddau dirprwyo i ysgolion o 75%, i 80% i ddechrau ac yna i 85% ond gellir gwneud llawer mwy.

Mae’r toriadau arfaethedig mewn cyllid cyfalaf dros yr ychydig flynyddoedd nesaf a’r canlyniadau i’r Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif yn gwneud ad-drefnu ysgolion a lleihau lleoedd gwag yn fwy o her hyd yn oed. Fodd bynnag, er mwyn perfformio’n well, mae angen i ni barhau i gael gwared ar yr aneffeithlonrwydd a ddaw yn sgil lleoedd gwag parhaus. Bydd angen cymorth gwleidyddol y Cynulliad ac Aelodau’r Cynulliad ar lywodraeth leol, i ymgysylltu â dinasyddion er mwyn gwneud i newid ddigwydd. Mae CLlLC wedi bod o’r farn ers amser bod angen symleiddio’r system addysg yn gyffredinol trwy resymoli proses, llai o fentrau, arweiniad gwell a ffocws mwy cadarn ar ganlyniadau. Mae angen mwy o eglurdeb a chysondeb yn nhrefniadau llywodraethu ysgolion lleol. Gall awdurdodau lleol a’u consortia chwarae mwy o rôl yn rheoli perfformiad ysgolion ac yn rheoli adnoddau ar draws ysgolion. Mae angen gallu newid strwythurau ysgolion yn haws ac, i’r perwyl hwn, mae achos o blaid deddfwriaeth newydd a fyddai’n galluogi awdurdod lleol i adleoli staff o un ysgol i ysgol arall.

Mae addysg yn gyfrifoldeb a rennir rhwng teuluoedd, cymunedau, ysgolion, awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill. Er mwyn datrys ein problemau dwys, fel y broblem gynyddol o bobl ifanc NEETS, yna mae angen teimlad o frys, gonestrwydd a bod yn agored arnom wrth i ni symud ymlaen. Ni allwn orffwys hyd nes bod gennym y system addysg sy’n perfformio orau yn y DU ac un o’r lefelau cyrhaeddiad uchaf yng nghymuned PISA.