Mae pob un o wasanaethau'r awdurdodau lleol yn effeithio ar iechyd a lles cymunedau a'u trigolion. Mae cydnabyddiaeth o bwysigrwydd a phosibiliadau ein swyddogaeth yn cynyddu ac mae'r awdurdodau lleol yn cael eu gweld yn asiantaethau gwella iechyd go iawn mwyfwy.
Mae byd llywodraeth leol Cymru wedi ailwampio ei ddull o wella iechyd trwy baratoi strategaethau iechyd, gofal cymdeithasol a lles ac ymateb i Her Iechyd Cymru. Mae'r 22 awdurdod wedi ymrwymo i'r egwyddorion isod i wneud yn fawr o'n gallu ni i wella iechyd:
- ein swyddogaeth ynghylch arwain y gymuned;
- diogelu iechyd trwy gyflawni ein cyfrifoldebau statudol;
- rhoi gofal a chymorth uniongyrchol o'r radd flaenaf i garfanau bregus;
- datblygu partneriaethau lleol cryf i wella ffyrdd o fyw pobl mewn modd cynaladwy;
- buddsoddi yn ein gweithlu;
- llunio polisïau yn ôl tystiolaeth trwy gasglu gwybodaeth gadarn;
- adlewyrchu egwyddorion Breinlen Ottawa Sefydliad Iechyd y Byd mwyfwy.
Mae Carfan Iechyd a Lles WLGA yn cydweithio â'r awdurdodau lleol, y GIG a phartneriaid eraill i'r perwyl hwnnw, gan roi cymorth i ddatblygu gallu ac adnoddau a chyngor am lunio polisïau. Fe ddylai'r adnoddau sydd ar gael trwy'r wefan yma fod o gymorth ichi - cysylltwch â ni os hoffech chi ragor.
Penodiad newydd - New Cydlynydd Partneriaethau Strategol – Byrddau Iechyd Lleol a Byd Llywodraeth Leol
Gwybodaeth ychwanegol
I weld rhannau perthnasol o wefan Carfan Iechyd a Lles WLGA, dewiswch o blith y dolenni ar y dde neu’r rhai isod:
- Gweithdai am ‘Y Llwybr i Wella Iechyd’
- Gwybodaeth a dogfennau am iechyd a lles
- Cynhadledd ‘Cyswllt â Iechyd’ 2006
- Dolenni ynghylch iechyd a lles
Mae rhagor o wybodaeth gan: Sue Whitford
