Rydych chi yma: Hafan / Pynciau / Gwella a llywodraethu
 

Gwella a llywodraethu

Improvement & GovernanceYn rhan o broses moderneiddio gwasanaethau cyhoeddus, mae disgwyl i fyd llywodraeth leol wella’n barhaol a chyd-fynd ag anghenion a disgwyliadau cyfnewidiol ein cymdeithas. Mae modd ysgogi newid a gwelliant yn ogystal â dulliau gwirio’r sustem lywodraethu i ofalu bod cyflawniad yn ateb safonau a disgwyliadau gwladol a lleol. Mae byd llywodraeth leol yn cael ei reoli’n ofalus am mai’r cyhoedd sy’n ei ariannu ac am ei fod yn rhoi gwasanaethau statudol. Mae’n atebol i gymunedau lleol am ei fod yn cyfiawnhau ei benderfyniadau drwy brosesau democrataidd ac yn cyhoeddi gwybodaeth am gyflawniad.

Dyma rai pethau sy’n ysgogi newid a gwelliant:

  • Rhaglen Gwella Cymru (WPI) (olynydd Rhaglen y Gwerth Gorau a fersiwn Cymru o’r Comprehensive Performance Assessment yn Lloegr);
  • taclau a thechnegau hunanasesu;
  • taclau asesu a gwella (e.e. EFQM, Buddsoddwyr mewn Pobl, Nod y Siarter);
  • cynllunio strategol, ariannol a busnes;
  • rheoli peryglon;
  • ailwampio trefniadau;
  • adolygu ac asesu cymheiriaid;
  • mesur a rheoli cyflawniad;
  • rhwydweithio, cymharu a meincnodi;
  • defnyddio dangosyddion cyflawniad yn effeithiol a gosod targedau;
  • archwilio mewnol;
  • archwilio allanol.

Mae’r ‘gwiriadau’ yn y sustem yn cynnwys:-

  • y fframwaith atebolrwydd gwladol ynghylch cyflawniad sy’n cynnwys strategaethau cymunedol a chynlluniau statudol, cytundebau polisi, fframwaith mesur cyflawniad, Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella (rheoliadau mewnol ac allanol)
  • dulliau mesur mewnol, rheoli ac archwilio cyflawniad mewnol;
  • datgelu gwybodaeth i’r cyhoedd;
  • bod yn atebol i’r cyhoedd a phartneriaid drwy gyhoeddi gwybodaeth, ymgynghori a chydweithio, a’r hawl i fynnu iawndal neu fynd i gyfraith;
  • bod yn atebol i adrannau’r llywodraeth am gyflawni yn erbyn y strategaeth wladol a thargedau
  • Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru;
  • archwilio allanol;
  • arolygu alolanol;

Mae rhagor o wybodaeth gan: Daniel Hurford