Mae byd llywodraeth leol wrthi'n hwyluso arbedion trwy wella cyfundrefnau a gwasanaethau ers peth amser bellach, ond mae Adroddiad Gershon yn Lloegr a Creu'r Cysylltiadau yng Nghymru wedi sbarduno ymdrech benodol ynglŷn â hynny.
Cyhoeddodd Prif Weinidog y Cynulliad ei ddelfryd ynghylch gwasanaethau cyhoeddus Cymru, Creu'r Cysylltiadau - Gwell Gwasanaethau i Gymru, fis Hydref 2004. Mae'r ddogfen yn gwrthod y dull mae Lloegr yn ei ddefnyddio ar hyn o bryd - 'dewis y defnyddiwr' - ac yn hybu cydweithredu gwirfoddol rhwng cyrff cyhoeddus Cymru. Mae'r delfryd wedi'i seilio ar y syniad o wasanaethau cyhoeddus cyfun sy'n cydlynu yn lle cystadlu. Mae'r ddogfen yn nodi delfryd hefyd ar gyfer 'Gwasanaeth Gwladol Cymru' a fydd yn anelu at nodau safonol ac yn cydweithio mewn modd mwy cyfun.
Mae egwyddorion Creu'r Cysylltiadau yn atgyfnerthu proses ar gyfer annog pobl i weithio ar y cyd o'u gwirfodd, er bod cosbau'n bosibl os nad ydyn nhw'n gwneud hynny cyn pen cyfnod rhesymol. Er ei fod eisoes wedi datblygu sawl enghraifft o gydweithio, mae byd llywodraeth leol wedi croesawu'r dull yma, gan dderbyn bod angen cyflymu'r broses yn fawr.
I hyrwyddo a datblygu trefniadau cydweithio ymhellach, mae WLGA wedi sefydlu pedair partneriaeth ranbarthol ar y cyd â SOLACE Cymru:
- Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol y Canolbarth a Chefn Gwlad
- Dolen y De-ddwyrain
- Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol y Gogledd
- Fforwm Partneriaeth Ranbarthol y De-orllewin
Trwy'r partneriaethau yma, mae'r cynghorau'n rhannu arbenigedd a'r arferion gorau a byddan nhw'n trefnu ac yn rhoi rhagor o wasanaethau ar y cyd. Fydd hynny ddim yn unig yn arwain at wella gwasanaethau cyhoeddus, ond dylai hwyluso arbedion effeithlonrwydd sylweddol, hefyd. Mae nifer o bynciau a gwasanaethau allweddol yn cael eu nodi'n flaenoriaethau ar gyfer cydweithio i ddibenion effeithlonrwydd ym myd llywodraeth leol, gan gynnwys rheoli gwastraff, cludiant yr ysgolion, canolfannau cysylltu a threfniadau gweinyddu. Mae'r partneriaethau'n cael manteisio ar gymorth cydlynwyr rhanbarthol WLGA o dan nawdd Cronfa Gwella 'Creu'r Cysylltiadau'.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Paul Charkiw
