Rydych chi yma: Hafan / Ein gwaith / Gwella a llywodraethu / Trydydd Sector / Gweithio Gyda’n Gilydd
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Gweithio Gyda’n Gilydd

‘Gweithio Gyda’n Gilydd’ – astudiaethau o arferion da yn y modd mae’r trydydd sector, byd llywodraeth leol a phartneriaid eraill yn cydweithio

Mae gan fudiadau’r trydydd sector a sefydliadau byd llywodraeth leol Cymru ddiddordeb yn lles yr ardaloedd lle maen nhw’n gweithio ac yn y syniad o rymuso pobl i newid eu cymunedau nhw er gwell. Yn y sefyllfa sydd ohoni, fodd bynnag, mae pob corff cyhoeddus am arbed cymaint ag y bo modd trwy gaffael yn graffach a gweithio ar y cyd.

Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) wedi casglu astudiaethau o arferion da ledled y wlad yn y modd mae’r trydydd sector, byd llywodraeth leol a nifer o bartneriaid eraill yn cydweithio mewn amryw wasanaethau. Trwy feithrin a lledaenu arferion da, gobeithio y bydd yn bosibl ehangu gwybodaeth, cydnabod arferion da a gwella trefniadau cydweithio a rhannu gwasanaethau.