Kathryn Kelly, Uwch Ymgynghorydd Asiantaeth Gwella a Datblygu
Gweithdy i archwilio rôl cynllunio ar gyfer olyniaeth wrth gefnogi strategaeth fusnes, er mwyn darparu parhad mewn rolau allweddol, ysgogi datblygiad a sicrhau llif o ddoniau newydd.
Braslun o Kathryn Kelly
Mae Kathryn yn ymwneud â rhaglen meithrin medrau arwain a doniau'r asiantaeth. Un o brif agweddau ei gwaith ers rhai blynyddoedd yw helpu i wella trefniadau denu a chadw staff gofal cymdeithasol. Wrth wneud hynny, mae hi wedi cydweithio â DH a DCSF yn ogystal â chyrff perthnasol eraill y maes. Mae hi wedi helpu i lunio'r côd ymarfer newydd ar gyfer denu gweithwyr gofal cymdeithasol o dramor, hefyd.
Yn ogystal â'i gorchwylion penodol, mae'n arwain prosiect paratoi olynwyr i gynghorau lleol ac yn helpu'r rhai sy'n cyflwyno ceisiadau i Gynllun Cynghorau Llewyrchus Lloegr yn thema Hyrwyddwyr Cymdogaethau a Chymunedau.
Mae ym myd llywodraeth leol ers 13 blynedd, gan weithio mewn sefydliad gwladol a chyngor lleol fel ei gilydd. Cyn hynny, bu mewn cwmni ariannu corfforaethol a chwmni ymgynghorol ym maes rheoli.
