Rydych chi yma: Hafan / Pynciau / Cyflogaeth / Cynhadledd Medrau 2008 / GWEITHDY / Gweithdy D - Cydweithio â Phartneriaid: Cydweithredu ar waith
 

Gweithdy D - Cydweithio â Phartneriaid: Cydweithredu ar waith

Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol (AGGC) a’r Adnodd Cymorth Comisiynu ar gyfer Plant (CCSR)

Bydd y gweithdy hynod ryngweithiol ac ymarferol hwn yn rhoi cyfle unigryw i archwilio rhai o’r heriau a’r atebion sy’n gysylltiedig â hyrwyddo’r diwylliant a’r sylfaen sgiliau cywir i gyflawni cydweithredu effeithiol. Bydd y sesiwn yn cynnwys ymarfer ‘golygfa wedi ei threfnu’, sy’n arwain at drafodaeth ehangach a fydd yn defnyddio enghreifftiau byw o ystod o brosiectau cydweithredol, arloesol mewn gofal cymdeithasol ar draws Cymru.

Asiantaeth Gwella'r Gwasanaethau Cymdeithasol (SSIA) ac Adnodd Cymorth Comisiynu Cymru ar gyfer Plant (CCSR)

Cafodd Asiantaeth Gwella'r Gwasanaethau Cymdeithasol (SSIA) ei sefydlu yn 2006 o dan nawdd Llywodraeth y Cynulliad i helpu'r awdurdodau lleol i sbarduno gwella a hybu rhagoriaeth yn y gwasanaethau cymdeithasol. Gan gydweithio'n agos ag amryw gyrff cysylltiedig megis ADSS Cymru, mae'r asiantaeth yn cynnal rhaglen gynhwysfawr o fentrau gwella lleol, rhanbarthol a gwladol er ansawdd ac effeithlonrwydd gwasanaethau cymdeithasol y wlad. Mae'r tri chydlynydd rhanbarthol dros y gogledd, y canolbarth a'r gorllewin, a'r deheubarth yn cydweithio'n agos â Chyfarwyddwyr y Gwasanaethau Cymdeithasol mewn amryw brosiectau uchelgeisiol sy'n dod â'r cynghorau i'w gilydd i ddatblygu trefniadau comisiynu a darparu ar y cyd fel y bydd eu gwasanaethau'n well.

Mae CCSR yn adnodd sy'n helpu awdurdodau lleol Cymru i ddewis lleoedd addas i'r plant o dan eu gofal. Mae'n unigryw yn y DG. Diben y prosiect yw gwella byd plant o dan ofal trwy ddewis y lle priodol y tro cyntaf fel y bydd y plentyn yn teimlo ei fod mewn trefn sefydlog a chefnogol. Mae CCSR yn rhoi gwybodaeth helaeth am leoedd i'r awdurdodau i'w galluogi i benderfynu'n ddoeth am yr hyn sydd fwyaf addas i blant a phobl ifainc o dan eu gofal. Ar ben hynny, mae CCSR yn helpu cynghorau i lunio dulliau o gomisiynu gwasanaethau i blant ar y cyd, ac mae'r wybodaeth yn ei gronfa ddata'n cyfeirio hynny.