Rydych chi yma: Hafan / Pynciau / Cyflogaeth / Cynhadledd Medrau 2008 / GWEITHDY / Gweithdy C - Cydweithio â Phartneriaid: Byrddau Gwasanaethau Lleol
 

Gweithdy C - Cydweithio â Phartneriaid: Byrddau Gwasanaethau Lleol

Michael Trickey, Tîm Byrddau Gwasanaethau Lleol Llywodraeth y Cynulliad

Bydd y gweithdy’n ystyried rôl Byrddau Gwasanaeth lleol wrth hwyluso a chyflwyno cydweithredu a newid ar draws gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, yn cynnwys yr angen i ddatblygu sgiliau a gallu’r gweithlu i weithio mewn partneriaeth a’r cyfleoedd sy’n cael eu creu gan fyrddau gwasanaeth lleol i alluogi cynllunio a datblygu gweithlu’n gydweithredol.

Braslun o Michael Trickey

Ar ôl gyrfa ym myd addysg uwch a'r celfyddydau, ymunodd Michael Trickey â'r Cynulliad yn was gwladol ym 1999, gan weithio yn y maes ariannol ac yn Swyddfa'r Ysgrifennydd Parhaol. Mae'n arwain gorchwylion llunio polisi 'Creu'r Cysylltiadau' er 2004, gan gynnwys yr ymateb i Adolygiad Beecham.
Mae'n aelod o fwrdd llywodraethu ysgol a byrddau dau fudiad lleol dros y celfyddydau.