Rydych chi yma: Hafan / Pynciau / Cyflogaeth / Cynhadledd Medrau 2008 / GWEITHDY / Gweithdy A – Offer a Thechnegau Datblygu Sefydliadol: Trawsnewid eich sefydliad
 

Gweithdy A – Offer a Thechnegau Datblygu Sefydliadol: Trawsnewid eich sefydliad

Margaret Rees, Uwch Ymchwilydd, Opinion Research Services Ltd

Rhwydwaith Ymgynghorwyr Rheoli yng Ngwasanaeth Cyhoeddus Cymru (PSMW)

… mae’r sector cyhoeddus yng nghanol newid radical: trawsnewid hanfodol o’r model a etifeddwyd o’r blynyddoedd wedi’r rhyfel i un sy’n gynaliadwy ar ddechrau’r unfed ganrif ar hugain. (Ar Draws Ffiniau, Gwasanaethau Lleol sy’n Canolbwyntio ar y Dinesydd (Adroddiad Beecham), 2006). Bydd Margaret yn gweithio gyda’r grŵp ar astudiaeth achos i nodi’r offer y gellid eu defnyddio i drawsnewid sefydliad.

Braslun o Margaret Rees

Mae Margaret yn hwylusydd profiadol yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Yn flaenorol, bu'n gweithio mewn marchnata, gan reoli newid yn y sector cyhoeddus yn ystod y 18 mlynedd diwethaf. Sefydlodd a gweithredodd fentrau gwella ansawdd a gweithio trwy bartneriaeth, ac mae hefyd wedi hwyluso rhwydweithiau sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid ar draws amrediad eang o sefydliadau sector cyhoeddus. Mae ganddi wybodaeth gadarn am y Nod Siarter, ISO 9001:2000, cynllunio busnes a rheoli perfformiad.

Cryfderau Personol

  • Gwybodaeth helaeth am y gwasanaethau brys, awdurdodau lleol, y GIG, ac asiantaethau’r llywodraeth ganolog – lle mae wedi sefydlu a hwyluso setiau dysgu gweithredol
  • Arbenigo mewn datblygu gweithio trwy bartneriaeth, gan gynnwys systemau gwella a gwerthuso
  • Yn brofiadol o ran offer gwella ansawdd ar gyfer datblygu cyfundrefnol, a rheoli perfformiad a newid 
  • Sgiliau defnyddio’r sgorfwrdd cytbwys a chynllunio ar gyfer ymagweddau real.