Rydych chi yma: Hafan / Ein gwaith / Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol / Cydraddoldebau a Deddf Cydraddoldeb 2010 / Deddf Cydraddoldeb 2010 / Gweithdy: Dyletswyddau Penodol Gwybodaeth Cyflogaeth, Gwahaniaethau Tâl a Hyfforddiant Staff
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Gweithdy: Dyletswyddau Penodol Gwybodaeth Cyflogaeth, Gwahaniaethau Tâl a Hyfforddiant Staff

Ar 9fed Chwefror 2012, cynhaliodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) a Chanolfan y GIG dros Gydraddoldeb a Hawliau Dynol (NHS CEHR) weithdy yn Wrecsam am Ddeddf ‘Cydraddoldeb’ 2010 a Dyletswyddau Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus Cymru, yn arbennig y dyletswyddau penodol ynglŷn â chyflogaeth a’r amryw wahaniaethau mewn cyflogau.

Nod y gweithdy ar gyfer awdurdodau cyhoeddus Cymru oedd rhoi cyfleon i’r rhai gymerodd ran ynddo feithrin medrau a gwybodaeth ynglŷn â chasglu, defnyddio a chyhoeddi manylion am y gweithlu i ddibenion cydraddoldeb. Mae gofyn statudol bellach i awdurdodau cyhoeddus sy’n ymwneud â’r dyletswyddau penodol yng Nghymru gyhoeddi amryw ddata am eu gweithwyr i ddibenion cydraddoldeb bob blwyddyn.

Dyma’r rhai roes gyflwyniadau yn ystod y gweithdy: Y Comisiwn dros Gydraddoldeb a Hawliau Dynol (Dyletswyddau penodol), Cyfreithwyr Morgan Cole (Monitro cydraddoldeb a phennu amcanion ar ei gyfer ym maes cyflogaeth), y Dr Alison Parken (Ymgynghorydd) (y ddyletswydd ynglŷn â chyflogau cyfartal) a GIG Cymru (Rhoi dysg ar waith). Mae’r cyflwyniadau ar gael isod.

Mae rhagor o wybodaeth gan: Naomi Alleyne