Mae cyfrifoldeb statudol ar yr awdurdodau lleol am gasglu gwastraff cartrefi a chael gwared arno. Nid casglu a chael gwared yn unig yw hanfod materion gwastraff, fodd bynnag. Rhaid canolbwyntio ar ddefnyddio adnoddau mewn modd effeithiol a chynaladwy. Gan fod pwyslais ar leddfu'r baich ar adnoddau naturiol, cwtogi ar faint o sbwriel rydyn ni'n ei gladdu a hwyluso datblygu cynaladwy, mae gofyn statudol i bob awdurdod lleol gwtogi ar faint o sbwriel mae'n ei anfon i domenni. Yr unig ffordd o wneud hynny yw casglu rhagor o wastraff i'w ailgylchu a'i wrteithio, a dod o hyd i ddulliau amgen o drin a thrafod gwastraff fel na fydd cymaint yn mynd i'r tomenni.
Materion allweddol/Cyd-destun y polisi
Mae'r Gyfarwyddeb 'Claddu Gwastraff' a'r Ddeddf 'Gwastraff a Gollyngiadau' yn galluogi'r Cynulliad i benderfynu faint o sbwriel mae'r awdurdodau lleol yn cael ei gladdu. Mae'r ffigur yn gostwng bob blwyddyn ac, felly, bydd rhaid i'r awdurdodau lleol ddyfeisio ffyrdd arloesol o gael gwared ar y sbwriel maen nhw'n ei gasglu o gartrefi.
Mae strategaeth y Cynulliad - Yn Gall gyda Gwastraff - yn pennu sut mae mynd i'r afael â'r broblem enfawr yma. Mae'n hybu egwyddorion Cleanstream ac yn amlinellu trefn lle cwtogi ar wastraff yw'r dewis gorau a chladdu sbwriel yw'r gwaethaf. Mae'r strategaeth honno i'w hadolygu yn 2007 a bydd WLGA yn cymryd rhan flaengar ynglŷn ag asesu'r cynnydd ac argymell y ffordd ymlaen.
I ofalu bod gan yr awdurdodau lleol y gallu a'r adnoddau i gyrraedd targedau claddu, mae WLGA wedi sefydlu adolygiadau cymheiriaid ynghylch gwastraff, ar y cyd â Llywodraeth y Cynulliad. Bydd pob awdurdod yn destun adolygu dros dair blynedd - o'i wirfodd - gan dîm fydd yn asesu ei gynlluniau a'i gynnydd o ran targedau claddu sbwriel.
Barn WLGA
Dechreuodd cynghorau Cymru ailgylchu oddi ar sylfaen isel iawn (3%). Mae'r targedau ar gyfer 06/07 (25%) ac 09/10 (40%) yn ymestynnol iawn, heb fod yn anymarferol. Yr her wedyn yw cyrraedd targedau claddu hyd at 2013, fodd bynnag, yn arbennig os ydyn ni'n dal i greu rhagor o sbwriel.
Rhaid sefydlu trefniadau ailgylchu lleol, ynghyd ag annog y trigolion i fanteisio arnyn nhw. Rydyn ni'n derbyn na fyddai'n ymarferol, yn synhwyrol nac yn fforddiadwy i bob awdurdod lleol godi cyfleusterau trin gwastraff ar ei ben ei hun. Bydd yn hanfodol gweithio ar y cyd a gweithio fesul rhanbarth, felly. O wneud hynny, gallai'r awdurdodau arbed arian trwy gynnig cytundebau mwy a fyddai'n denu'r sector preifat ac yn galluogi byd llywodraeth leol i gadw rheolaeth ar y gwasanaeth achos, yn y pen draw, byd llywodraeth leol fydd yn talu dirwy o £200 y dunnell am fethu â chyrraedd y targedau.
Mae'n hanfodol gweithio ar y cyd i ofalu bod byd llywodraeth leol yn cyrraedd targedau claddu. Mae WLGA yn cysylltu â'r Cynulliad ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn rheolaidd i drafod polisïau trin gwastraff a materion rheoleiddio.
Mae WLGA yn gweithio ar y cyd ag Ymgyrch 'Cadwch Gymru'n Daclus' a mudiad Cylch, hefyd, ynglŷn â Chynllun 'Craff am Wastraff'. Yn 2002, llofnododd WLGA a mudiad Cylch femorandwm dealltwriaeth a arweiniodd at gyflwyno'r Cynllun Ailgylchu Strategol a Phrosiect y Cynghorau Enghreifftiol.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Rachel Jowitt
