Rydych chi yma: Hafan / Ein gwaith / Ewrop a WLGA / Swyddfa Ewropeaidd WLGA / Gwasanaethau
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Gwasanaethau

Mae sawl deddf, polisi a rhaglen ariannu yn tarddu o Frwsel. Un o'n gorchwylion allweddol yw rhoi manylion cywir a chyfoes a chasglu gwybodaeth am broses llunio'r polisïau. Ar ben hynny, mae'r Swyddfa Ewropeaidd yn gallu nodi a dadansoddi'r effeithiau ar gyfer awdurdodau lleol Cymru ac, o ganlyniad, hwyluso trafodaethau gyda sefydliadau yr Undeb Ewropeaidd. Mae WLGA yn cefnogi partneriaethau rhwng byd llywodraeth leol a chyrff eraill, ac yn hyrwyddo newidiadau yng nghyfundrefnau, deddfau a pholisïau Cymru, y D.U. a'r Undeb Ewropeaidd er mwyn diwallu anghenion dinasyddion lleol.

Casglu gwybodaeth am brosesau yr Undeb Ewropeaidd yw gwaith craidd Swyddfa Ewropeaidd WLGA ym Mrwsel. Dyma rai o wasanaethau'r Swyddfa:

  • Bod yn gyfleuster neilltuol ar gyfer cynghorwyr a swyddogion WLGA a'r cyrff sy'n aelodau ohoni.
  • Rhoi cyngor strategol am arwyddocâd rhaglenni a blaenoriaethau yr Undeb Ewropeaidd i fyd llywodraeth leol Cymru.
  • Ceisio dylanwadu ar sefydliadau a hoelion wyth yr Undeb Ewropeaidd a hybu polisïau WLGA yn eu plith.
  • Cydweithio â sefydliadau Cymru megis Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru ynglyn â materion sy'n gyffredin inni.
  • Rhoi gwybodaeth am gynlluniau cyllido a chasglu gwybodaeth am ddeddfau a phroses llunio'r polisïau ar gyfer WLGA ac awdurdodau lleol Cymru.
  • Datblygu a chynnal cysylltiadau agos â sefydliadau Brwsel megis y Comisiwn Ewropeaidd, Senedd Ewrop a Chynrychiolaeth y D.U.
  • Hwyluso cyfathrebu â hoelion wyth yr Undeb Ewropeaidd ynghylch anghenion, argymhellion ac ymatebion byd llywodraeth leol.
  • Helpu i sefydlu cysylltiadau i ddibenion cydweithio a meithrin perthynas â rhanbarthau a sefydliadau perthnasol y gwledydd sy'n aelodau o'r Undeb Ewropeaidd neu'n ddarpar aelodau.
  • Trefnu ymweliadau i ddibenion astudio a chasglu gwybodaeth ar gyfer awdurdodau lleol Cymru a WLGA.
  • Cynorthwyo cynrychiolwyr awdurdodau lleol Cymru ym Mhwyllgor y Rhanbarthau.
  • Cydweithio â swyddfeydd eraill Brwsel, gan gynnwys cymdeithasau cenedlaethol eraill, yn cynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Lloegr (LGA), Cymdeithas Awdurdodau Lleol yr Alban (COSLA), Cymdeithas Llywodraeth Leol Gogledd Iwerddon (NILGA), Cyngor Bwrdeistrefi a Rhanbarthau Ewropeaidd (CEMR) a'r Rhwydwaith Awdurdodau Lleol Ewropeaidd (ELAN), a hefyd thrwy gymdeithasau awdurdodau lleol a rhanbarthol yr UE ym Mrwsel a thu hwnt, megis Cyngor Ewrop (yn cynnwys Cyngres Awdurdodau Lleol a Rhanbarthol), Cyngor Rhanbarthau Ymylol Arforol (CPMR), a Eurocities.

Mae rhagor o wybodaeth gan: Iwan Williams