Rydych chi yma: Hafan / Ein gwaith / Gwella a llywodraethu / Cynorthwyo a datblygu cynghorwyr / Be a Councillor / Gwasanaethau llywodraeth leol / Gwasanaethau rheoleiddio
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Gwasanaethau rheoleiddio

Mae gwasanaethau rheoleiddio'r cynghorau mewn meysydd megis safonau masnach, iechyd anifeiliaid, iechyd yr amgylchedd a thrwyddedu yn cyflawni rôl hanfodol ynglŷn â diogelu a chynnal cymunedau lleol yng Nghymru gan ddiwallu anghenion pobl o ran bwyd mwy diogel, cymdogaethau glanach, gweithleoedd iachach a threfn ar fasnachwyr drwg.

Rôl yr awdurdodau lleol

Dyma rai o wasanaethau rheoleiddio cyngor: iechyd amgylcheddol; safonau masnach; rheoli difwyno; difa plâu; rheoli adeiladu; cynghori; trwyddedu; diogelwch bwyd; iechyd a diogelwch; iechyd anifeiliaid.

Mae'r gwasanaethau rheoleiddio wedi cytuno i ganolbwyntio ar y blaenoriaethau isod er lles Cymru:

• Diogelu unigolion rhag niwed a hybu iechyd gwell.
• Gofalu bod cadwyn ein bwyd yn ddiogel, bod ansawdd y bwyd yn dda a bod cyn lleied o beryglon ag y bo modd o ran iechyd pobl ac anifeiliaid.
• Hybu tegwch a chyfiawnder i ddinasyddion a chwmnïau o ran masnachu.
• Gwella'r amgylchedd lleol i ddylanwadu ar ansawdd bywydau'r trigolion er gwell a hyrwyddo cynaladwyedd.

Mae gwasanaethau rheoleiddio ar flaen y gad ynglŷn â diogelu pobl rhag sawl clefyd gan atal achosion o glefyd y llengfilwyr ac e-coli, er enghraifft, neu ymateb iddyn nhw. Yn anffodus, bydd heintiau'n codi eu pennau weithiau ond mae'r rhan fwyaf o'r gwaith atal llwyddiannus yn mynd rhagddo heb ei weld bob dydd.

Pan fo achosion o afiechyd ymhlith anifeiliaid megis clefyd y traed a'r genau, ffliw adar a hyd yn oed y gynddaredd, bydd swyddogion y gwasanaethau rheoleiddio'n cydlynu cynlluniau argyfwng ac yn gorfodi pawb i gydymffurfio â nhw er iechyd anifeiliaid a diogelwch cwmnïau cyfreithlon. 

Dyma rai o orchwylion eraill y gwasanaethau rheoleiddio: trwyddedau alcohol; diogelwch tacsis/cerbydau llogi preifat a'u gyrwyr; cywirdeb pwysau a mesurau; safleoedd hapchwarae; ansawdd yr awyr; tir wedi'i ddifwyno.

Mae gwasanaeth cynghori am safonau masnach ar gael chwe diwrnod yr wythnos bellach trwy 'Cyswllt Defnyddwyr', gwifren gymorth mae'r awdurdodau lleol yn ei chynnal ar y cyd â Swyddfa'r Masnachu Teg. Bydd gwasanaeth safonau masnach yr awdurdod perthnasol yn ymchwilio i unrhyw fater y bydd eisiau mynd ar ei ôl. Mae'r gwasanaeth yn ateb dros 95,000 o alwadau o Gymru bob blwyddyn.

Mae benthyca ariannol anghyfreithlon, heb ei reoleiddio, (lle bydd rhaid talu llog rhwng 500% ac 11,000,000%) yn achosi pryder hefyd, ac mae uned wedi'i sefydlu i fynd i'r afael â'r broblem ledled Cymru. Bydd yr uned yn rhoi'r cymorth priodol i'r bobl a'r cymunedau sydd wedi dioddef o achos yr arfer hwnnw ac yn cydweithio ag asiantaethau eraill i roi cymorth a chynghorion ariannol.

Ffeithiau allweddol:

  • £1.4 biliwn y flwyddyn yw costau gofal iechyd a niwed masnachol yn DG o achos clefydau sydd wedi'u trosglwyddo trwy fwyd. 
  • Mae amcangyfrif bod llygredd yn yr awyr yn arwain at gostau iechyd hyd at £20.2 biliwn y flwyddyn ledled y DG. 
  • Mae cwsmeriaid yn arbed o leiaf £347 miliwn o achos gwaith yr awdurdodau lleol i'w diogelu. I bob punt mae awdurdodau lleol y DG yn ei gwario ar waith o'r fath, bydd cwsmeriaid yn arbed o leiaf £6. 
  • Mae Cyswllt Defnyddwyr a gwasanaethau safonau masnach y DG yn delio â rhyw 65,000 o ymholiadau gan gwsmeriaid a thua 35,000 o geisiadau am gymorth gan gwmnïau bob blwyddyn.

Rhagor o wybodaeth