Cafodd adroddiad yr astudiaeth feincnodi wladol am wasanaethau i'r rhai sydd â nam ar y golwg yng Nghymru ei gyflwyno yng Nghaerdydd ar 12fed Ionawr 2006.
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chyngor Deillion Cymru a gydlynodd yr astudiaeth rhwng mis Mawrth 2003 a chanol 2005, gyda chymorth Cymdeithas Cyfarwyddwyr y Gwasanaethau Cymdeithasol (ADSS), Llywodraeth y Cynulliad, Arolygiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (SSIW), 22 gyngor Cymru ac amryw fudiadau gwleidyddol megis RNIB Cymru a chymdeithasau lleol i'r deillion. Mae'r prosiect yn cyd-fynd â gwaith arall mae'r ADSS wedi'i gyflawni yn ddiweddar ynghylch pennu safonau ar gyfer gwasanaethau i'r rhai sydd â nam ar y synhwyrau, ac yn cymryd i ystyriaeth newidiadau megis cyflwyno'r Broses Asesu Unol yng Nghymru.
Fe roes yr astudiaeth gyfle unigryw i asesu a chymharu safonau cyfredol y gallu a'r gwaith ledled Cymru. Mae wedi arwain at bennu argymhellion mewn meysydd allweddol sef darparu gwybodaeth, atgyfeirio, asesu a chynllunio gofal, a gwasanaethau i blant a phobl ifainc. Mae'r argymhellion mewn adroddiad cryno ac, ar ben hynny, mae cyfres o lawlyfrau sy'n cynnwys safonau cynhwysfawr ar gyfer y meysydd uchod i helpu rheolwyr a staff i drefnu gwelliannau yn eu hardaloedd eu hunain.
