Er bod rôl hollbwysig i fyd llywodraeth leol ynglŷn â ffurfio, helpu, arwain a chynrychioli cymunedau, mae'r cynghorau'n cynnig amrywiaeth o wasanaethau hanfodol, hefyd.
Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Lloegr (LGA) wedi amcangyfrif bod cynghorau'n cynnig dros 700 o wahanol wasanaethau i'r cyhoedd gan gynnwys rhai sydd heb eu gweld neu'n cael eu cymryd yn ganiataol, yn aml.
Mae cyfrifoldebau statudol ar gynghorau am lawer o bethau sy'n effeithio ar fywydau pobl megis cynllunio, trafnidiaeth, gwasanaethau cymdeithasol a hyrwyddo cydraddoldeb a datblygu cynaladwy.
At hynny, mae byd llywodraeth leol yn cynnig amryw wasanaethau anstatudol hanfodol megis hamdden, materion diwylliannol ac adfywio ardaloedd. Wrth gyflawni cyfrifoldebau o'r fath, mae'r awdurdodau'n cydweithio'n agos â chymunedau a budd-ddalwyr eraill.
Mae fframwaith y gwasanaethau cyhoeddus yn datblygu o hyd. Er bod y cynghorau'n gyfrifol am ofalu bod sawl gwasanaeth ar gael, nid y cynghorau fydd yn eu rhoi bob tro. Mae'n bosibl mai mudiad gwirfoddol, cwmni preifat neu'ch cyngor ar y cyd â chyngor arall neu ryw asiantaeth fydd yn gwneud hynny. Mae ehangder y gwasanaethau'n newid hefyd achos bod mwy a mwy o bwyslais a disgwyl yn Llywodraeth Cymru y dylai gwasanaethau megis addysg, gwastraff a gofal cymdeithasol gael eu rhoi ar y cyd neu'n rhanbarthol.
Mae'r rhestr ganlynol yn cyflwyno cefndir gwasanaethau allweddol y cynghorau. Byddwn ni'n diweddaru'r tudalennau yn ystod 2011-12 i ofalu eu bod yn gyfoes ac yn cynnwys y polisïau a'r blaenoriaethau sy'n dod i'r amlwg yn sgîl etholiad y Cynulliad fis Mai 2011.


