Mae gwasanaethau i blant yn bwysig ym meysydd addysg a dysgu gydol oes i ofalu bod plant yn dechrau eu bywydau cystal ag y bo modd ac yn cael cyfle i ymgysylltu â'r gymdeithas a chymryd rhan ynddi mor gynnar ag y bo modd. Mae gwasanaethau effeithiol i blant a'u teuluoedd yn ymgysylltu â nhw drwy'r amser ac yn gwella byd plant Cymru, gan gynnwys eu cyrhaeddiad addysgol.
Partneriaethau dros faterion plant a phobl ifanc sy'n trefnu gwasanaethau i blant trwy'r cynlluniau ar gyfer plant a'r ifainc. Mae gwasanaethau i blant yn cynnwys:
- Gofalu am blant
- Cynorthwyo rhieni
- Cynllun y Cychwyn Cadarn
- Cyfleusterau chwarae
- Cynllun Cymorth
- Y Cyfnod Sylfaen Gwasanaethau hysbysu teuluoedd
Mae Llywodraeth Cymru wedi llunio nifer o bolisïau sy'n effeithio ar y gwasanaethau lleol i blant. Mae Mesur 'Plant a Theuluoedd' Cymru wedi arwain at strategaeth newydd i leddfu tlodi ymhlith plant a dyletswydd i'r awdurdodau lleol ynglŷn â chyfleusterau chwarae.
___________________________________________________________
Dangosodd gwybodaeth gafodd ei chyhoeddi fis Ionawr 2011 fod 1,723 o ysgolion, 466,172 o ddisgyblion a 24,854 o athrawon amser llawn cyfatebol yng Nghymru.
Ionawr 2011
Ysgolion
Ionawr 2010
+/-
23
Ysgol Feithrin
25
2
1, 435
Ysgolion cynradd
1,462
27
222
Ysgolion uwchradd
223
1
43
Ysgolion arbennig
43
Roedd nifer yr ysgolion wedi gostwng o 30, nifer y disgyblion wedi gostwng o 969 a nifer yr athrawon wedi gostwng o 432 o'i chymharu â 2010. Awdurdodau lleol sy'n cynnal y rhan fwyaf o ysgolion Cymru ac mae gan bob ysgol o'r fath berthynas uniongyrchol â chyngor ei ardal.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Daisy Seabourne


