Gwasanaethau Gwella WLGA
Mae byd llywodraeth leol yng Nghymru yn cynnig amrywiaeth eang o gymorth i alluogi cynghorau i wella’r ffordd maen nhw’n rhoi gwasanaethau, trefnu eu hunain a chydweithio â dinasyddion. Mae 'Cyfeirlyfr o Gymorth i Wella Gwasanaethau’r Cyngor’ yn darparu gwybodaeth i bawb sydd â diddordeb mewn llywodraeth leol am yr amrywiaeth o wasanaethau cymorth gwella sydd ar gael.
Bwrdd Gwella WLGA
Sefydlodd WLGA ‘Fwrdd Gwella' yn 2009. Gwleidyddion lleol allweddol ac iddyn nhw rolau pwysig ynghylch arwain trefniadau cynnig gwasanaethau lleol yw aelodau'r bwrdd, ac mae carfan o arbenigwyr profiadol o fyd llywodraeth leol a sectorau eraill i'w cynghori. Mae'r bwrdd yn hyrwyddo gwella ym myd llywodraeth leol gan annog awdurdodau i ledaenu'r arferion gorau a chynghori a chynorthwyo ei gilydd.I ddysgu mwy am y Bwrdd, yn cynnwys pwy yw’r aelodau, cliciwch yma
Mae rhagor o wybodaeth gan: Daniel Hurford


