Mae cydnabyddiaeth eang o ymrwymiad WLGA i hybu delwedd y gwasanaethau cymdeithasol ac mae hynny'n amlwg yn y Naw Ymrwymiad. Cydnabu Prif Arolygydd Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru arweiniad gwleidyddol cryf WLGA ymhlith cynghorau lleol yn ei adroddiad blynyddol yn ddiweddar.
Mae WLGA wedi meithrin cysylltiadau cryf a threfniadau cydweithio da â nifer o gyrff gwladol pwysig megis Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (ADSS), Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (CSSIW) a Chyngor Gofal Cymru. Mae WLGA yn falch o gynnal Asiantaeth Gwella'r Gwasanaethau Cymdeithasol a gafodd ei sefydlu yn 2006 i gyflymu ac ehangu gwella.
I weld rhagor o wybodaeth, dewiswch o blith y dolenni ar y chwith neu'r rhai sydd ar waelod y dudalen.
