Rydych chi yma: Hafan / Bod yn gynghorydd 2012 / Gwasanaethau llywodraeth leol / Gwasanaethau cymdeithasol
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Gwasanaethau cymdeithasol

CG - Social ServicesDyma'r maes mwyaf ond un ym myd llywodraeth leol. Ei brif swyddogaeth yw diogelu'r rhai sy'n agored i niwed, helpu pobl i fyw'n annibynnol a gwella byd plant a'r ifainc.

Mae gwasanaethau cymdeithasol Cymru yn helpu dros 125,000 o bobl sy'n agored i niwed ac yn cyflogi dros 70,000 o weithwyr ar hyn o bryd.

Mae cyfrifoldeb statudol ar awdurdodau lleol am drefnu a chomisiynu gwasanaethau cymdeithasol yn ogystal â diogelu unigolion trwy amryw bartneriaethau. Er bod gofyn statudol i bob awdurdod benodi cyfarwyddwr dros ei wasanaethau cymdeithasol, mae'r awdurdodau'n cael pennu strwythur y gwasanaethau hynny. Felly, mae rhai wedi cyfuno addysg â'r gwasanaethau cymdeithasol i blant ac mae rhai'n cynnig gwasanaethau cyfun i blant ac oedolion fel ei gilydd.

Mae gwasanaethau cymdeithasol Cymru yn wynebu anawsterau ariannol o hyd am nifer o resymau. Mae nifer yr hen bobl yn dal i gynyddu ac mae anghenion mwy cymhleth ac ymestynnol arnyn nhw. Mae mwy a mwy o bobl yn cael hawlio gofal cymdeithasol ac mae disgwyliadau uchel ymhlith y defnyddwyr a'r cynhalwyr. Ar ben hynny, mae ymrwymiad i helpu cynifer o bobl ag y bo modd i fyw'n annibynnol yn eu milltir sgwâr.

Materion plant

Mae'r gwasanaethau cymdeithasol i blant yn un o swyddogaethau craidd byd llywodraeth leol ac mae tua 4,500 o blant dan ofal. Mae'r gwasanaethau cymdeithasol yn ymwneud â'r plant sydd fwyaf agored i niwed ac sydd wedi bod mewn sefyllfaoedd anodd a niweidiol iawn gartref, yn aml. Mae materion plant wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd diweddar yn sgîl Deddf 'Plant' 2004 a Mesur 'Plant a Theuluoedd' 2010. Creodd Deddf y Plant ddyletswyddau statudol newydd sef paratoi cynlluniau ar gyfer plant a'r ifainc a sefydlu byrddau diogelu plant ym mhob bro. Mae Mesur y Plant a'r Teuluoedd yn gofyn i'r awdurdodau fynd i'r afael â thlodi ymhlith plant.

Rhieni corfforaethol

Mae gofyn statudol i awdurdodau lleol ofalu am blant lle mae asesiadau bod angen gofal o'r fath arnyn nhw neu os yw'r teulu wedi gofyn amdano. Yn y cyd-destun hwn, rhaid i gynghorwyr a swyddogion weithredu'n rhieni corfforaethol yn ôl Deddf 'Plant' 2004.

Cynlluniau ar gyfer plant a phobl ifanc

Dyma'r cynllun cyffredinol ynglŷn â gwasanaethau i blant a phobl ifanc yn ardal pob awdurdod lleol. Partneriaethau dros faterion plant a'r ifanc sy'n paratoi'r cynlluniau ym mhob ardal. Mae'r partneriaethau'n cynnwys amrywiaeth helaeth o aelodau megis yr awdurdodau lleol, cyrff iechyd a mudiadau gwirfoddol. Diben y cynlluniau yw:

  • Rhoi delfryd strategol a chytuno ar flaenoriaethau fydd yn cyfeirio gwaith partneriaid. 
  • Disgrifio sut bydd gofynion gwladol a lleol yn cael eu hateb. 
  • Amlinellu amcanion mesuradwy y cytunwyd arnyn nhw i wasanaethau. 
  • Pennu cyfraniadau'r partneriaid ynglŷn â chyflawni amcanion ar y cyd. 
  • Rhoi modd i gomisiynu ar y cyd a chyfuno arian, gan gynnwys cyllidebau craidd.

Diogelu

Mae diogelu'n un o flaenoriaethau allweddol byd llywodraeth leol. Er bod rôl arweiniol eglur i'r gwasanaethau cymdeithasol, dim ond trwy gynnwys amryw bartneriaid megis gwasanaethau eraill y cyngor (addysg, er enghraifft), byd iechyd a'r heddlu y bydd modd gwella byd plant. Dylai fod yn ardal pob awdurdod lleol fwrdd diogelu plant sy'n cydlynu gwaith diogelu ac yn hybu lles plant a'r ifainc.

Gwasanaethau cymorth cyfun i deuluoedd

Yn ôl Mesur 'Plant a Theuluoedd' 2010, mae gofyn i awdurdodau lunio gwasanaethau cymorth cyfun i deuluoedd ac mae arbrofion yn mynd yn eu blaen yng Nghasnewydd, Wrecsam, a Merthyr Tudful/Rhondda Cynon Taf ar hyn o bryd. Dim ond ar ôl gwerthuso'r arbrofion a chael rhagor o arian y bydd modd cyflwyno gwasanaethau o'r fath i'r wlad i gyd o 2014 ymlaen. Hanfod y gwasanaethau newydd yw timau amlasiantaethol fydd yn gweithio'n uniongyrchol gyda rhieni sy'n ymwneud â chofrestr diogelu'r plant o ganlyniad i gamddefnyddio cyffuriau gartref.

Materion oedolion

Un o brif flaenoriaethau'r gwasanaethau cymdeithasol yw diogelu oedolion sy'n agored i niwed gan eu helpu i fyw'n annibynnol a chymryd rhan yn y gymdeithas a'u galluogi nhw i fyw cyhyd ag y bo modd yn eu cartrefi eu hunain. I wneud hynny, bydd awdurdodau'n asesu anghenion pobl, yn rheoli eu gofal ac yn cynnig amryw wasanaethau i ddiwallu'r anghenion sydd wedi'u nodi. 

Mae diogelu o'r fath mewn cymunedau'n parhau'n rhan o drefniadau cynhwysfawr gan gynnwys cynnal gweithlu medrus sy'n cael eu rheoleiddio'n dda, cynnal cartrefi gofal sy'n destun rheoleiddio ac arolygu, asesu anghenion unigolion yn effeithiol a rheoli'r gofal ar eu cyfer. Mae camau megis cofrestru mwy a mwy o weithwyr, cyflwyno rhestr diogelu'r oedolion sy'n agored i niwed a chyflwyno gradd ym maes gwaith cymdeithasol yn hybu safonau ymhlith y staff.

Ffeithiau allweddol

  • Roedd dros 5,000 o blant dan ofal awdurdodau lleol Cymru ddiwedd mis Mawrth 2010. 
  • Cafodd gwasanaethau cymdeithasol Cymru dros 48,500 o atgyfeiriadau ynglŷn â phlant yn 2009-10. 
  • Rhoes gwasanaethau cymdeithasol Cymru gymorth i ryw 108,000 o oedolion yn 2009-10. Roedd tua 80,000 o'r rheiny dros 65 oed.
  • Yn 2009-10, cafodd yr awdurdodau lleol dros 6,700 o atgyfeiriadau ynglŷn â diogelu oedolion (lle roedd pryderon am ddiogelwch oedolion).

Rhagor o wybodaeth

WLGA

Asiantaeth Gwella'r Gwasanaethau Cymdeithasol

Llywodraeth Cymru