Mae gwaith ieuenctid yn alwedigaeth ar wahân. Mae'r awdurdodau lleol ynghlwm wrtho ers y 1930au ac mae statws statudol iddo yn ôl Deddf 'Dysgu a Sgiliau' 2000. Mae Strategaeth y Gwasanaeth Ieuenctid (2007) yn rhoi cyfle i ychwanegu at hynny yn ogystal â datblygiadau pwysig eraill.
Dyma brif egwyddorion y gwasanaeth:
- mae pobl ifainc yn manteisio arno o'u gwirfodd;
- mae diben addysgol i'r gwaith;
- ar gyfer yr ifainc mae'r gwaith, ac maen nhw'n cael eu gwerthfawrogi am bwy ydyn nhw yn lle beth maen nhw'n ei gyflawni.
Mae gan Grŵp y Prif Swyddogion Ieuenctid (swyddogion awdurdodau lleol) rôl hirsefydlog o ran datblygu a chynnig gwasanaethau i'r ifainc yn strategol, yn ogystal â nifer o fentrau perthnasol ar ran awdurdodau lleol Cymru yn rhinwedd ei statws yn un o is-gylchoedd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru (ADEW).
Mae modd cyrchu gwefan ADEW trwy glicio ar y ddolen ar y dde.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Tim Opie
