Mae WLGA yn ymwneud â datblygu economaidd ac adfywio yn y meysydd isod:
• Cymorth busnes
• Rhaglen 'Cymunedau'n Gyntaf'
• Cronfeydd Strwythurol Ewrop
• Caffael
• Datblygu gwledig
• Mentrau cymdeithasol
• Cymorth gwladol
• Twristiaeth
Mae WLGA yn trefnu ac yn cynnal Rhwydwaith y Swyddogion Adfywio sy'n dod â swyddogion o'r awdurdodau lleol at ei gilydd i drafod materion pwysig a phrofiad ddwywaith y flwyddyn. Rydyn ni'n cydweithio'n agos hefyd â Chylch Llywio'r Cyfarwyddwyr Adfywio sy'n ein cynghori ac yn ein cyfeirio ynglŷn â gwaith adfywio.Mae WLGA yn cyhoeddi Bwletin Adfywio bob tri mis i roi'r diweddaraf i'r awdurdodau lleol am bolisïau allweddol, ariannu a deddfau.At hynny, rydyn ni'n trefnu cyfarfodydd bob blwyddyn i gynghorwyr arweiniol materion adfywio'r awdurdodau lleol yn ogystal â threfnu cyfarfodydd â Gweinidogion Llywodraeth y Cynulliad bob tri mis.
Cynghorwyr a swyddogion perthnasol
Cynghorwyr
• Y Cynghorydd Chris Holley (Abertawe), Llefarydd dros Adfywio a Materion Ewrop
• Y Cynghorydd Jeff Edwards (Merthyr Tudful), Dirprwy Lefarydd dros Ddatblygu Economaidd
• Y Cynghorydd Michael Jones (Powys), Llefarydd dros Faterion Gwledig
• Y Cynghorydd Bob Parry (Ynys Môn), Dirprwy Lefarydd dros Faterion Gwledig
Swyddogion
• Tim Peppin – Cyfarwyddwr Adfywio a Datblygu Cynaladwy
• Lowri Gwilym – Swyddog Polisïau Adfywio
• Swyddfa WLGA, Brwsel
Cylch Llywio'r Cyfarwyddwyr
• Tim Peppin (cadeirydd) a Lowri Gwilym (WLGA)
• Sheila Davies (Casnewydd)
• Louise Fradd (Pen-y-bont ar Ogwr)
• Dave Gilbert (Sir Gâr)
• Iwan Trefor Jones (Gwynedd)
• Allan Lewis (Ceredigion)
Mae rhagor o wybodaeth gan: Lowri Gwilym


