Rydych chi yma: Hafan / Bod yn gynghorydd 2012 / Canllawiau i gwmnïau: Helpu cymunedau lleol er democratiaeth leol
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Canllawiau i gwmnïau: Helpu cymunedau lleol er democratiaeth leol

Sut?

  • Annog a helpu unrhyw weithwyr a hoffai fod yn ymgeiswyr yn yr etholiadau lleol. 
  • Helpu unrhyw weithwyr sy’n gynghorwyr.

Pam?

  • Mae cynghorwyr yn gwasanaethu’r cyhoedd. 
  • Bydd modd datblygu medrau’ch staff o ran arwain, datrys problemau a chyfathrebu. 
  • Mae cynghorwyr yn helpu i ffurfio’r gymuned – gallan nhw helpu i wella’r amgylchedd lleol a chynorthwyo cwmnïau lleol.

Bydd pobl am fod yn gynghorwyr am amryw resymau. Mae cynghorwyr yn cynrychioli pawb sy’n byw ac yn gweithio yn yr ardal lle maen nhw wedi’u hethol, gan weithio gyda’r ysgolion lleol, cylchoedd cymunedol, cymdeithasau masnachol a mudiadau’r ifainc i wella’r gymuned.

Mae cynghorwyr yn rhoi llais i unigolion yn y gymuned. Maen nhw’n dylanwadu ar waith y cyngor a sut mae’n ei gyflawni – megis rhoi gwasanaethau i blant a phobl hŷn, cynllunio ar gyfer prosiectau mawr, cael gwared ar sbwriel, adfywio’r economi a datblygu’r fro.

Mae’r cynghorwyr yn unigryw o ran amrywiaeth y materion y byddan nhw’n eu trafod a’r modd y gallan nhw effeithio ar drigolion, ardaloedd a chwmnïau lleol er gwell.

Gwella’r ddealltwriaeth

Mae angen i gynghorau a chwmnïau lleol gydweithio i wella’r ardal. Er bod natur y ddau’n wahanol, rhaid iddyn nhw ddeall ei gilydd a gwerthfawrogi eu cryfderau a’u posibiliadau.

Trwy gynorthwyo gweithwyr sy’n gynghorwyr neu sy’n ymgeiswyr yn yr etholiad, bydd modd ychwanegu at nifer y bobl ym myd llywodraeth leol a chanddyn nhw brofiad uniongyrchol a chyfoes o’r sector preifat. At hynny, bydd modd ychwanegu at nifer y bobl ym myd busnes sy’n deall y cyngor a sut mae’n gweithio. 

Meithrin medrau

Mae llawer o fedrau angenrheidiol cynghorwyr yn berthnasol i’r gwaith, hefyd. Mae arnon ni i gyd angen medrau arwain, cydweithio, penderfynu a rheoli cyflawniad, er enghraifft.

Mae gan staff sy’n gynghorwyr gyfle unigryw i feithrin amrywiaeth helaeth o’r cyfryw fedrau a galluoedd a’u defnyddio yn y gwaith, hefyd. Fel arfer, bydd gyda nhw rwydwaith eang o gysylltiadau yn yr ardal, yn ogystal â chysylltiadau â chynghorau eraill.

Medrau personol

Mae cynghorwyr profiadol yn gallu gweithredu mewn modd moesegol, cyson a gonest wrth gyfleu egwyddorion neu gynrychioli safbwyntiau ynglŷn a phenderfyniadau neu gamau gweithredu. Byddan nhw’n gwrando’n dringar ac yn defnyddio iaith briodol. Gan fod cynghorwyr yn cyfathrebu’n rheolaidd ag unigolion a grwpiau, byddan nhw’n hyderus wrth siarad yn gyhoeddus.

Arwain

Mae cynghorwyr yn arweinyddion yn eu cymunedau nhw. Maen nhw’n meithrin medrau i ymgysylltu’n frwd ac yn feddylgar â phobl er mwyn gwybod, deall a thrafod materion sy’n achosi pryder. Rhaid i gynghorwyr feithrin medrau cymodi a thringarwch, sy’n hanfodol i fusnes, hefyd.

Gweithio mewn tîm

Mae medrau cydweithio’n bwysig yn y cyngor a byd busnes fel ei gilydd. Rhaid meithrin perthynas dda â phobl trwy eu gwerthfawrogi, eu cynnwys ac ymddiried ynddyn nhw gan weithio ar y cyd i gyflawni nodau, cadw at flaenoriaethau a gwybod pryd mae angen dirprwyo cyfrifoldebau neu roi cymorth.

Rheoli cyflawniad

Trwy eu rôl ynghylch archwilio a rheoli gwaith y cyngor, bydd cynghorwyr yn dysgu’n gyflym sut mae trin a thrafod gwybodaeth gymhleth. Gallan nhw gyflwyno dadleuon cryno mewn modd ystyrlon, hawdd ei ddeall, a chwestiynu prosesau, penderfyniadau a phobl mewn modd gwrthrychol a thrylwyr.

Mae’r medrau hynny cyn bwysiced i fusnes ag i lywodraeth leol. Yn ôl pob tebyg, bydd staff cwmnïau sy’n fodlon cynorthwyo gweithwyr o gynghorwyr yn fedrus ynghylch trin a thrafod pobl a gwybodaeth, arwain a chydweithio – a byddan nhw’n gryf eu cymhelliant, hefyd.

Mae’r cynghorau’n buddsoddi llawer o amser ac adnoddau i ddatblygu eu cynghorwyr, gan feithrin amrywiaeth helaeth o fedrau a rhinweddau sydd o gymorth yn y gwaith. Po fwyaf o’r cyfleoedd hynny gaiff eich gweithwyr, mwyaf o bosibiliadau gewch chi yn eich gwaith.

Beth am absenoldeb?

Mae llawer o gyflogwyr yn cynorthwyo staff sy’n gynghorwyr yng Nghymru. Ar hyn o bryd, mae tua 19% o’n cynghorwyr mewn swyddi amser llawn, mae 9% yn gweithio’n rhan amser ac mae 19% yn hunangyflogedig.

Fydd cynghorwyr ddim yn absennol yn ormodol ond, ar adegau, bydd angen bod yn hyblyg i’w galluogi i fynd i gyfarfodydd. Ar gyfartaledd, bydd cynghorwyr yn treulio tua 25-27 awr bob wythnos ar waith y cyngor ond gyda’r nos neu dros y Sul y bydd hynny, gan amlaf. Mae’r cynghorau’n gwella trefniadau cymorth i’w cynghorwyr ac maen nhw’n effro i’r ffaith bod angen amrywio amserau cyfarfodydd yn ôl cyfrifoldebau personol a phroffesiynol eu haelodau fel y bydd cynifer ag y bo modd yn bresennol.

Beth mae modd imi ei wneud?

Mae’n hanfodol i gyflogwyr fod mor gefnogol ag y bo modd pan fo gweithiwr yn mynegi diddordeb mewn bod yn ymgeisydd. Beth am siarad â’ch staff ynglŷn a bod yn gynghorydd?

Mae rhai cynghorau’n cynnal ymgyrchoedd cyfranogi i annog pobl i fod yn ymgeiswyr a bydd cyfleoedd i gwmnïau lleol gymryd rhan yn yr ymgyrchoedd hynny, hefyd.

Ga’ i finnau fod yn gynghorydd?

Gallwch chithau:

  • helpu i ddatblygu’ch cymuned a gwella byd trigolion a chwmnïau’r fro. 
  • meithrin medrau arwain a chael profiad proffesiynol.

Os oes diddordeb gyda chi mewn bod yn gynghorydd, cysylltwch â’ch awdurdod lleol fydd yn rhoi rhagor o wybodaeth. Ar y llaw arall, mae gwybodaeth ar wefan WLGA gan gynnwys llawlyfr i ymgeiswyr ac adnoddau eraill sy’n amlinellu rôl cynghorydd lleol:
www.wlga.gov.uk/english/be-a-councillor/

Bydd y rhan fwyaf o bobl sy’n mynd yn gynghorwyr yn gwneud hynny trwy blaid wleidyddol mae gyda nhw deyrngarwch naturiol iddi. Mae rhai pobl yn dewis bod yn annibynnol, fodd bynnag. Rydyn ni wedi nodi’r prif ddolenni cyswllt isod i’ch helpu i gael gwybod rhagor.

Rhagor o wybodaeth

Gwefan ‘Bod yn gynghorydd’ (WLGA) – www.wlga.gov.uk/english/be-a-councillor/

Plaid Llafur Cymru – www.welshlabour.org.uk

Ceidwadwyr Cymru – www.welshconservatives.com

Democratiaid Rhyddfrydol Cymru – www.welshlibdems.org.uk  

Y Cylch Annibynnol – Gall Cylch Annibynnol Cymdeithas Llywodraeth Leol Lloegr roi gwybodaeth i gynghorwyr ac ymgeiswyr annibynnol www.independentgroup.lga.gov.uk

Y Comisiwn Etholiadol – www.electoralcommission.org.uk/wales

Un Llais Cymru sy’n cynrychioli cynghorwyr bro a thref Cymru – www.onevoicewales.org.uk

Plaid Cymru – www.plaidcymru.org

Mae’r llawlyfr hwn wedi’i seilio ar lyfryn gan Asiantaeth Gwella a Datblygu Llywodraeth Leol (IDeA gynt) a Siambrau Masnach Prydain, ‘How you can make a difference’: http://www.idea.gov.uk/idk/aio/9119859