Mae Grŵp Arwain y Gwasanaethau Cyhoeddus yn rhoi arweiniad cenedlaethol ar gyfer cydweithio, ac yn gweithio i gyflymu’r gwaith o wella gwasanaethau i ddinasyddion Cymru.
Mae’r gwaith a wneir ar y cyd â phartneriaid o bob rhan o wasanaethau cyhoeddus Cymru yn cael ei adlewyrchu’n genedlaethol yng ngweithgarwch Grŵp Arwain y Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae’r Grŵp hwn, dan gadeiryddiaeth y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, Carl Sargeant AC, yn cynnwys arweinwyr uwch sy’n cynrychioli gwasanaethau cyhoeddus ac ardaloedd daearyddol ledled Cymru.
Mae’n adeiladu ar raglen gweithio ar y cyd sydd wedi bod ar waith ers dros flwyddyn, ac sydd wedi canolbwyntio ar ddulliau o wella effeithlonrwydd a hyrwyddo arloesedd ar draws y gwasanaethau cyhoeddus.
Er mwyn sicrhau arweiniad ac atebolrwydd gwleidyddol, bydd y Grwp yn gweithio gyda Chyngor Partneriaeth statudol diwygiedig.
Link - http://wales.gov.uk/topics/improvingservices/pslg/?skip=1&lang=cy
Archive– Bwrdd Effeithlonrwydd ac Arloesi
Rhaglenni Gwaith Cenedlaethol
Sefydlwyd Grŵp Arwain y Gwasanaethau Cyhoeddus i roi arweiniad cenedlaethol ar gyfer diwygio gwasanaethau cyhoeddus a chydweithio, a hefyd i gyflymu’r gwaith o wella gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Dyma’r 3 rhaglen waith genedlaethol y mae’r Grŵp yn eu harwain:
Caffael a Rheoli Asedau
Defnyddio ystad y Gwasanaethau Cyhoeddus, sy’n werth biliynau o bunnoedd, mewn modd mwy effeithiol ac effeithlon, gan drawsnewid dulliau’r gwasanaethau cyhoeddus o gaffael a chomisiynu nwyddau a gwasanaethau, sy’n werth £4.3 biliwn bob blwyddyn ar hyn ar bryd.
Datblygu Sefydliadol a Gweithredu Argymhellion Simpson
Gweithredu argymhellion Adolygiad Simpson gan ddatblygu dulliau gweithredu i helpu i wireddu newidiadau a datblygiadau sefydliadol ehangach ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru.
Gwasanaethau Effeithiol i Grwpiau Agored i Niwed
Sicrhau bod arloesedd llwyddiannus ac arferion da yn cael eu mabwysiadu yn y brif ffrwd er mwyn ymestyn eu heffaith a sbarduno arloesi pellach, yn enwedig o ran cydgysylltu gwasanaethau i bobl a grwpiau agored i niwed, yn enwedig y rheini sydd ag anghenion cymhleth. Hefyd, ymchwilio i ddulliau o gael pobl i gyfrannu at y gwaith o lunio a darparu gwasanaethau, a sicrhau bod ymyriadau yn canolbwyntio ar atal yn ogystal ag ar wella.
Link http://wales.gov.uk/topics/improvingservices/pslg/nwp/?skip=1&lang=cy


