Rydych chi yma: Hafan / Ein gwaith / Adnoddau / Ariannu byd llywodraeth leol / Grant Cynnal y Refeniw
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Grant Cynnal y Refeniw

Mae Llywodraeth y Cynulliad yn rhoi Grant Cynnal y Refeniw i'r awdurdodau lleol heb ei gorlannu i ddibenion penodol. Mae'n dyrannu'r arian hwnnw yn eu plith yn ôl poblogaeth pob ardal. Fe newidiodd y fformiwla cyn dyraniad 2001-02 yn sgîl argymhellion adolygiad annibynnol roedd Prifysgol Abertawe a Pion Economics wedi'i gynnal.

Yr Is-gylch dros Ddosbarthu (un o weithgorau'r Fforwm Ymgynghorol dros Gyllid o dan adain Cyngor y Bartneriaeth) sy'n cadw golwg ar y fformiwla yn ôl gorchwyl a rhaglen waith y bydd y Fforwm yn cytuno arnyn nhw bob blwyddyn.

Grant Cynnal y Refeniw yw prif elfen y cyllid a gaiff byd llywodraeth leol bob blwyddyn. Trethi busnes yw elfen arall 'cyfanswm y cyllid allanol' fel y'i gelwir.

Mae rhagor o wybodaeth gan: Mari Thomas