Mae WLGA yn cydweithio â chynghorau lleol a’u partneriaid i astudio effaith tueddiadau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd ar anghenion cymunedau a’r gwasanaethau ar eu cyfer dros y tymor hir. Yn 2008, cyhoeddon ni adroddiad am dueddiadau’r dyfodol a chwilio’r gorwel er mwyn rhoi braslun o’r tueddiadau – a’r pethau fydd yn eu sbarduno – hyd 2040 yn ôl adrannau gwladol, byd busnes a’r gymdeithas sifil;codi rhai cwestiynau y dylai’r awdurdodau lleol eu hystyried yng ngoleuni’r tueddiadau hynny.
Cyhoeddiad: Tueddiadau'r dyfodol a chwilio'r gorwel ar gyferbyd llywodraeth leol yng Nghymru
Adnoddau Dosbarth Meistr y Dyfodol
Cynhalion ni gyfres o weithdai am dueddiadau’r dyfodol i gynghorau ac uwch swyddogion awdurdodau lleol ym mis Mawrth 2009 gan roi braslun o’r modd y gallai amryw dueddiadau megis tyndra rhwng economïau lleol a’r un byd-eang, diogelwch ynni, diogelwch bwyd, y newid hinsoddol, arbed gwastraff, iechyd a thewdra effeithio ar gymunedau Cymru. Llunion ni amryw daflenni ac astudiaethau ar gyfer y gweithdai ac i ategu’r adroddiad am dueddiadau’r dyfodol a chwilio’r gorwel. Mae modd gweld y deunydd trwy glicio ar y linciau isod.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Tim Peppin


