Mae gofyn i awdurdodau lleol Cymru drin a thrafod bwyd gwastraff yn effeithiol i gyd-fynd â'r targedau ar gyfer claddu llai o wastraff ac ailgylchu rhagor. Casgliad yr adolygiad yn 2008 yw nad oedd trefniadau casglu a thrin bwyd gwastraff yn ddigonol.
Trwy ein rhaglen ar gyfer gwella arferion rheoli gwastraff, rydyn ni wedi cynnal pedwar seminar am gasglu a thrin bwyd:
- 28ain Medi 2008: Treulio anaerobig yng Nghymru (cyflwyno sustemau treulio anaerobig)
- 11eg Tachwedd 2008: Defnyddio sustemau treulio anaerobig yng Nghymru (cyflwyniadau gan y rhai sy'n cynnig sustemau o'r fath).
- 29ain Ebrill 2009: Casglu cymaint o fwyd gwastraff ag y bo modd (cyflwyniadau am gasglu digon o fwyd i ddibenion treulio anaerobig a deall/datrys unrhyw broblemau ynglŷn â'r modd mae pobl yn gweld ac yn defnyddio'r gwasanaeth)
- 11eg Tachwedd 2009: WRAP – cyflwyno gwasanaethau casglu bwyd gwastraff (hyfforddiant i reolwyr gweithredol yn yr awdurdodau lleol)
Cliciwch yma i weld cyflwyniadau o'r seminarau hynny.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Emma Shakeshaft


