Ddechrau 2010, gofynnodd ein tîm dros faterion gwastraff i gwmni MEL Research gynnal prosiect am gasglu bwyd gwastraff.
Bydd gwasanaethau o'r radd flaenaf ar gyfer casglu bwyd gwastraff yn hanfodol i awdurdodau lleol Cymru i'w galluogi nhw i gadw at eu cwotâu o ran claddu gwastraff dros y tymor canolig a chyflawni targedau'r strategaeth genedlaethol, 'Tuag at Gymru Ddiwastraff'. Mae mwy o amrywio yn nifer y bobl sy'n ailgylchu bwyd nag sydd yn nifer y rhai sy'n ailgylchu pethau eraill, fodd bynnag. Mae pobl yn gyndyn o gydio yn yr arfer am nifer o resymau megis hylendid a denu plâu – er na fydd gwir beryglon ar yr amod bod y bwyd yn cael ei gasglu bob wythnos. Yn aml, bydd pobl yn ailgylchu rhai pethau megis croen ffrwythau a llysiau ond yn gwrthod ailgylchu pethau megis cig, esgyrn ac olion bwyd.
Yn rhan o'n rhaglen ar gyfer gwella arferion rheoli gwastraff, aethon ni ati i bennu sut gallai pob cyngor weithio'n well – a hynny trwy gyfrif faint o bobl sy'n gadael bwyd gwastraff i'w gasglu a chyfathrebu â rhai trigolion i hybu ailgylchu a nodi'r meini tramgwydd.
Dyma brif weithgareddau'r prosiect:
- monitro nifer y rhai sy'n ailgylchu bwyd yn ôl canllawiau WRAP;
- dadansoddi'r sbwriel i weld faint o fwyd mae pobl yn ei roi yn eu biniau a faint o fwyd mae pobl yn ei adael i'w ailgylchu;
- asesu ymddygiad ac agweddau'r rhai nad ydyn nhw'n ailgylchu bwyd a'r rhai sy'n ailgylchu hyn a hyn o fwydydd i nodi'r meini tramgwydd trwy ymgynghori;
- cwrdd â phobl i godi ymwybyddiaeth y rhai nad ydyn nhw'n ailgylchu bwyd a'r rhai sy'n ailgylchu ond ychydig i'w hannog i gydio yn yr arfer;
- monitro a dadansoddi eto i weld faint o bobl oedd wedi newid eu harferion.
- ymgynghori â phobl eto trwy hel sylwadau'r rhai oedd newydd ddechrau ailgylchu bwyd i weld a oedd eu tybiaethau am hylendid ac ati wedi newid a phenderfynu a oes modd annog y rhai nad ydyn nhw'n ailgylchu bwyd o hyd i gymryd rhan.
Dewison ni dri awdurdod ar gyfer y prosiect – Sir Gâr, Sir Ddinbych a Rhondda Cynon Taf – achos eu bod yn casglu bwyd bob wythnos a bod eu gwasanaethau ychydig yn wahanol fel y gwelwch chi yn y tabl isod. Felly, mae'r prosiect hefyd yn asesu a oes unrhyw wahaniaethau yn nifer y bobl sy'n ailgylchu bwyd, pa fwydydd maen nhw'n ei ailgylchu a'u hagweddau at ailgylchu bwyd yn ôl yr amryw fathau o wasanaethau sydd ar gael.
| Awdurdod | Sbwriel | Bwyd | Liners |
| Rhondda Cynon Taf | Bob wythnos | Bob wythnos | Yes |
| Sir Ddinbych | Bob pythefnos: bin olwynion 180L | Bob wythnos | Yes |
| Sir Gâr | Bob pythefnos: 4 bag du ar y mwyaf | Bob wythnos | No |
Dechreuon ni'r monitro fis Ebrill 2010 a byddwn ni'n cau pen y mwdwl ar yr ymgynghori fis Tachwedd 2010. Byddwn ni'n cyhoeddi'r adroddiad terfynol fis Ionawr 2011. Y bwriad yw y bydd y canfyddiadau'n berthnasol i bob cyngor sy'n casglu bwyd i'w ailgylchu.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Emma Shakeshaft


