Rydych chi yma: Hafan / Ein gwaith / Yr amgylchedd ac Adfywio / Llifogydd a Dŵr
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Llifogydd a Dŵr

Mae llifogydd yn berygl mawr i gymunedau Cymru o hyd ac mae'r rhagolygon am y newid hinsoddol yn awgrymu y gallai'r perygl hwnnw gynyddu, yn arbennig nifer y gorlifoedd sydyn. Yn sgîl y llifogydd sylweddol yng Nghaerloyw yn 2007, cynhaliodd Syr Michael Pitt adolygiad manwl. Mae'r argymhellion yn cynnwys sawl pwnc ond yr elfen allweddol yw nad oedd yn arbennig o bwysig i bobl pa fath o lifogydd oedd yn effeithio arnyn nhw na pha gorff fyddai'n arwain yr ymateb. Byddai angen cydlynu'r ymateb a byddai angen asiantaeth i arwain materion llifogydd. Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi mabwysiadu llawer o'r argymhellion.

Yn sgîl yr adroddiad a'r gofyn i weithio yn ôl Cyfarwyddeb Undeb Ewrop am Lifogydd, fe gyhoeddodd Llywodraeth San Steffan ddwy ddogfen statudol, sef Rheoliadau 'Perygl Llifogydd' 2009 (ynglŷn â'r gyfarwyddeb) a Deddf 'Rheoli Llifogydd a Dŵr' 2010 (ynglŷn â llawer o brif argymhellion Adolygiad Pitt).

Yn ôl y rheoliadau a'r ddeddf newydd, bydd cyfrifoldeb ychwanegol ar gynghorau Cymru ynglŷn â llunio, cynnal, defnyddio a monitro strategaethau trin a thrafod dŵr arwyneb, dŵr codi a dyfrffosydd – a hynny yn rhinwedd eu swyddogaeth newydd, sef awdurdodau lleol arweiniol dros faterion llifogydd.

Dyma rai ffeithiau sydd yn adroddiad Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, 'Llifogydd yng Nghymru':

  • Gallai llifogydd effeithio ar un o bob chwe chartref yng Nghymru;
  • Gallai llifogydd o afonydd neu'r môr effeithio ar dros 220,000 o gartrefi ac mae perygl sylweddol i 64,000 o'r rheiny;
  • Gallai llifogydd dŵr arwyneb effeithio ar 97,000 o'r cartrefi hynny hefyd yn ogystal â 137,000 ychwanegol sydd mewn perygl o achos dŵr arwyneb;
  • Mae 57% o'r rhai sydd mewn perygl o achos llifogydd yn gwybod hynny ac mae 60% o'r rheiny wedi cymryd camau i ymbaratoi ar gyfer llifogydd;
  • Yn ogystal â rhoi gwybodaeth fanylach ynglŷn â ble mae'r peryglon mwyaf, mae'r adroddiad yn dangos bod rhan sylweddol o isadeiledd pwysig a gwasanaethau cyhoeddus y wlad mewn ardaloedd lle mae llifogydd yn berygl. Er enghraifft, mae dros 80 o ganolfannau trin a thrafod dŵr a charth mewn ardaloedd o'r fath, ac mae 67% o'r rheiny mewn perygl sylweddol.

Byddwn ni'n cyhoeddi canllawiau a gwybodaeth ychwanegol am y dudalen hon, gan gynnwys bwletinau'r LGA ac ynddyn nhw sawl dolen a dogfen ddefnyddiol.

Mae rhagor o wybodaeth gan: Neville Rookes